Search billions of records on Ancestry.com
   
 
  Hafan
  Hafan
 
  Hanes
  Dechreuad
  Blynyddoedd Cynnar
  1961-1970
  1971-1980
  1981-1990
  1991-2000
  2001-ymlaen
  Galeri Lluniau
 
  Gwybodaeth
  Cyswllt
 

Clwb Rygbi Pwllheli

 

Croeso i safle hanes rygbi yn nhref Pwllheli.

Chwaraewyd gêm gyntaf Clwb Rygbi Pwllheli ym mis Medi 1972. Cliciwch y linc ar yr ochr chwith. Mae hanes rhai o'r blynyddoedd cynnar wedi'u cynnwys yn barod.

Ydych chi wedi gweld y galeri lluniau sydd ar y safle? Cliciwch ar y linc ' Galeri Lluniau' i weld lluniau o'r blynyddoedd cynnar hyd at y presennol. Hefyd mae yna lwyth o luniau hen a newydd o wahanol gemau i'w gweld yno. Os oes gennych luniau yr hoffech gael eu cynnwys cysylltwch er mwyn i pawb gael eu gweld.

Daeth tymor 2006-07 i ben pan gollwyd y gem olaf yn Rhuthun. Tymor yn Adran 5 o'r Gynghrair sy'n wynebu'r Clwb ar ol tymor trychinebus. Serch hynny mae pawb yn edrych ymlaen am y tymor newydd. Mae'r hyfforddwr newydd, David Martin eisoes wedi cychwyn ar y gwaith ac mae pethau'n argoeli'n dda am y dyfodol gyda nifer o hogia ifanc addawol yn barod i dorri drwodd.

Mae angen mwy o wybodaeth ar ddatblygiad y gêm yn y dref, felly beth amdani. Cysylltwch drwy'r linc e-bost os oes gennych unrhyw beth fyddai o ddiddordeb i ddilynwyr y gêm dros y blynyddoedd.

Anfonwch e-bost wrth glicio ar y botwm cyswllt ar ochr chwith y dudalen hon.

*******************

 

Bryan Davies - Clwb Rygbi'r Bala.

Anafwyd Bryan yn ddifrifol yn ei gêm olaf i'r Clwb ar ddiwedd tymor 2006-07, anaf sydd yn ôl pob tebyg wedi'i barlysu o'i wddf i lawr.

Erbyn hyn mae Bryan wedi cael ei symyd o Ysbyty Wrecsam i Uned Therapi Dwys ar gyfer anafiadau i'r asgwrn cefn yn Ysbyty Southport ac mae paratoadau'n cael eu gwneud i gario allan gwelliannau i'r ty ar gyfer yn adeg y caiff Bryan ddychwelyd adref.

Mae ei ffrindiau yn y Clwb Rygbi wedi agor Cronfa Apêl ac mae gwefan wedi'i chreu ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i'r gweithgareddau sydd wedi'u trefnu ar gyfer y misoedd nesaf.

Fel rhan o'r wefan mae yna fforwm lle y gall unrhyw un adael neges. Os ydach chi'n nabod Yogi  neu wedi chwarae yn ei erbyn yn y gorffennol pam na wnewch anfon gair - dim ond i chi gofrestru ar y fforwm i gychwyn. Dwi'n siwr y byddai ef a'r teulu yn falch o glywed gennych ac yn gwerthfawrogi pob arwydd o gefnogaeth. Cliciwch ar y bêl.

Mae Dilwyn Morgan, cyn gyd-chwaraewr gyda Bryan yn nhîm Bala erbyn hyn wedi cwblhau ei daith beic o Land's End i John O'Groats. Mae'r blog sydd ganddo yn disgrifio'i brofiad ar y daith ar ffurf dyddiadur.

 

 

 

 

Cymru

Cynlluniwyd gan: Keith Parry Hawlfraint 2006

Newyddion

Tymor 2008-09.
Gemau Pwllheli a thimau eraill - Adran 1 Cynghrair Rygbi Gogledd Cymru.

Pwllheli 14
Fflint 36

Medi 13eg 2008.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 6
Caernarfon 15

Medi 6ed 2008.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 52
Wrecsam 10

Ebrill 26ain 2008.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 26
Dudley 14

Ebrill 26ain 2008.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 67
Rhos 10

Ebrill 23ain 2008.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 31
Bethesda 0

Ebrill 19eg 2008.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 34
Bro Ffestiniog 8

Ebrill 5ed 2008.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 31
Llangollen 0

Mawrth 29ain 2008.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 66
COBRA 13

Mawrth 22ain 2008.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 27
Porthaethwy 13

Mawrth 1af 2008.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 46
Llandudno 7

Ionawr 5ed 2008.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 26
Benllech 12

Rhagfyr 1af 2007.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 35
Yr Wyddgrug 7

Tachwedd 17eg 2007.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 78
Y Rhyl 5

Tachwedd 10fed 2007.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 34
Caernarfon 14

Tachwedd 3ydd 2007.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 36
Machynlleth 3

Hydref 20fed 2007.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 7
Bethesda 29

Medi 29ain 2007.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 65
Y Trallwng 16

Medi 22ain 2007.
Lluniau o'r gêm.

Pwllheli 7
Llangefni 20

Medi 8fed 2007.
Lluniau o'r gêm.

Sesiwn Ymarfer.
Ail sesiwn ymarfer Mehefin 16eg 2007.

Sesiwn Ymarfer.
Cynhaliwyd y sesiwn ymarfer cyntaf ar y 9fed o Fehefin. Mewn tywydd ardderchog gwelwyd mwy na 20 o hogia yn troi allan. Lluniau o'r sesiwn.