Yn rhifyn yr 28ain o Dachwedd 1906 o’r Udgorn gwelir sôn am sefydlu Clwb Peldroed newydd ym
Mhwllheli, yn gysylltiedig
ag Eglwys Sant Pedr. Fe ddaw perthnasedd hyn i rygbi yn glir mewn ychydig.
Roedd y gêm wedi cael ei chwarae’n gyson yn y Dref ers 1879 ac roedd gweld clybiau newydd yn cael eu sefydlu yn beth
digon cyffredin. O fewn un wythnos yn ystod mis Hydref 1905, er enghraifft, gwelwyd dim llai na phum tîm gwahanol yn
cynrychioli’r dref. Mae’n deg dweud mai byr oedd oes y rhan fwyaf o’r rhain, ac felly’n wir mae’n
debyg, tîm yr Eglwys.
Beth sy'n ddiddorol am y tîm hwn yw’r sylw yma, yn y rhifyn nesaf o’r Udgorn.
‘The Club which has been formed in connection with the Church made a start in a field they have secured in Cardiff Road.
Under which code they will eventually play seems under debate as part of the time on Saturday they were emulating the deeds
of the Springboks.’
Ar yr union adeg, roedd tîm rygbi De Affrica yn chwarae ym Mhrydain Fawr. Mae’n amlwg felly bod rhywfaint o ddiddordeb
yn rygbi wedi lledaenu i’r rhan yma o Gymru yn sgil hyn. A dyma ni’r cadarnhad cyntaf i rygbi gael ei chwarae ym Mhwllheli.
Roedd y daith yn drobwynt yn hanes chwaraeon yn Ne Affrica, y daith gyntaf dramor erioed i dîm rygbi o Dde Affrica, ac yn
dod megis pedair blynedd ar ôl erchyllterau Rhyfel y Boer. Roedd yn ffordd o wella clwyfi’r Rhyfel ac i ennyn balchder
cenedlaethol. Llwyddodd i uno’r ‘Afrikaaners’ a’r ‘Colonials’ mewn un achos, sef i drechu timau rygbi Prydeinig. Yn ystod
y daith hon y defnyddiwyd y term ‘Springboks’ gyntaf i ddisgrifio’r tîm.
Ar daith yn cynnwys 29 gêm llwyddwyd i sgorio 608 o bwyntiau i gymharu â 85 yn eu herbyn. Ennillwyd 26 o’r gêmau hyn,
gan golli dim ond dwy ohonynt. Casnewydd oedd y tîm Cymreig cyntaf i gael eu curo. Charlie Pritchard, chwaraewr rhyngwladol
i Gymru oedd capten y tîm cartref ond gyda dau gais yn yr hanner cyntaf, yr ymwelwyr gurodd y gêm o 8-0. Daeth torf o 25,000
i wylio Morgannwg yn cael eu trechu o 6-3 yng Nghaerdydd. Yr un oedd tynged Llanelli o flaen torf o 20,000 ar 29ain o Ragfyr,
o 16-3.
Gyda Chymru yng nghanol degawd a’i gwelwyd yn ennill y goron drifflig bum gwaith, nid oedd De Affrica yn disgwyl curo'r
gêm yn eu hrebyn.
Dyma ddywedodd Paul Roos y capten yn dilyn y fuddugoliaeth.
“Wnaetho ni erioed obeithio am ffasiwn fuddugoliaeth. Aethom ar y cae yn benderfynol o roi o’n gorau gan adael y
canlyniad yn nwylo Duw.”
Cafodd y perfformiad a'r fuddugoliaeth o 11-0 i'r ‘Boks’ ei gydnabod wrth i’r cefnogwyr cartref gario Roos
a Marsberg, dau o chwaraewyr De Affrica oddi ar y cae.
Heblaw am gweir yn erbyn yr Alban yr unig dîm arall i’w curo ar y daith oedd Caerdydd ar y 1af o Ionawr 1907, a hynny
o 17-0.
Fel canlyniad i’r daith sefydlwyd y ‘Boks’ fel arweinwyr y gêm ledled y byd. Am yr 50 mlynedd nesaf chollwyd mo cyfres
gartref nac i ffwrdd a daeth yr emblem i’w pharchu a’i hofni yn fyd-eang.
Er bod yna sôn am fodolaeth y gêm yn ardal Bangor ac ymhellach ar hyd yr arfordir ac yn rhannau o Feirionydd ni
welwyd rygbi ym Mhwllheli wedi’r digwyddiad yma, bu’n rhaid disgwyl hyd ddechrau’r 1930au cyn i’r gêm ail ymddangos yn y
rhan yma o Wynedd. Clwb Rygbi Porthmadog oedd yn gyfrifol am hynny. Mae yna Glwb wedi bodoli yno ers beth bynnag 1931. Mae
rhifyn 15fed o Fedi 1933 o’r North Wales Chronicle yn edrych ymlaen am y tymor o’u blaenau gyda chadarnhad fod Capten S
Griffith o Griccieth, a oedd a phrofiad o chwarae i’r Fyddin yn India yn mynd i chwarae ac roedd gweld E Lloyd Jones, y
bachwr yn dychwelyd yn siwr o gryfhau’r sgrym.
Er efallai nad oedd safon y chwarae yn uchel iawn mae manylion tymor 1934-35 yn cadarnhau fod y gêm yn cael ei chwarae’n
rheolaidd ac o ddifrif. Llwyddwyd i guro 8 allan o’r 19 gêm chwaraewyd. Beth sy’n ddiddorol yw’r mai dim ond 7 trosiad oedd
yn llwyddiannus o’r 54 cais sgoriwyd. Mae’r adroddiad yw gwneud sylw arbennig o ddau chwaraewr lleol, John Davies a chwaraeodd
pob un gêm am y ddau dymor diwethaf ac A H Roberts a fethodd ond un gêm yn ystod y cyfnod yma.