Cafodd John Humphreys ei ddewis i chwarae i dîm Sir
Gaernarfon yn erbyn Ysgolion Rhondda ar Chwefror 20fed 1965. Er
i'r tîm golli'r gêm o 20-0. Gyda 14 o'r tîm unai yn ddisgyblion
unai yn Ysgolion Friars neu John Brights, John oedd yr unig
fachgen lleol yn y tîm y diwrnod hwnnw.
Dyma lun arall o dîm rygbi hŷn Ysgol
Ramadeg Pwllheli yn dyddio o fis Tachwedd
1965, yn dilyn buddugoliaeth o 23-0 yn erbyn Ysgol Gyfun Caergybi.
Trueni na fyddai'r safon rywfaint yn well, ond er hynny rwy'n siwr y gall rhai ohonoch chi selogion y gêm adnabod
amryw o'r chwaraewyr. Fe ddaeth rhai ohonynt yn nes ymlaen i chwarae i Glwb Rygbi Pwllheli, a gadael eu marc hefyd.
Rhag ofn nad ydych wedi adnabod pawb mae enwau i'w gweld o tan y llun.
Chwaraewyd yn erbyn HMS Conway, Caernarfon, Harlech a Machynlleth ymysg eraill yn ystod canol y chwedegau.
Amryw fuddugoliaeth nodedig ymysg colledion oedd weithiau yn rhai trwm. Beth bynnag fo’r canlyniad roedd rhaid sgwennu
adroddiad ar y gêm ar gyfer y Caernarfon and Denbigh. R M H oedd ‘sports correspondent’ swyddogol Ysgol Ramadeg Pwllheli.
Mr R Meirion Hughes, mab Y Parchedig a Mrs R Gwilym Hughes, 21 Ffordd Caerdydd oedd y cyw riportar hwnnw.
Meirion ei hun oedd gwrthrych y newyddion yn rhifyn 24ain Rhagfyr 1965 o’r C+D Herald, pan dorrodd asgwrn pont yr ysgwydd
yn chwarae yn erbyn Harlech. Aethpwyd ag ef i Ysbyty Bryn Beryl am x-ray a methodd chwe wythnos o’r tymor.
Chwarae ar y Rec ar fore Sadwrn oedd yr arferiad bryd hynny, ac mae un gêm chwaraewyd wythnos cyn Nadolig 1965 wedi dal
sylw. Harlech oedd y gwrthwynebwyr mewn tywydd ofnadwy a gyda’r bêl yn ymddwyn fel bâr o sebon, yn ei gwneud yn amhosib
chwarae rygbi cyflym. Pwllheli aeth ar y blaen yn erbyn 14 Harlech pan sgoriodd Terry Owen gais, a chyn hanner amser
ychwanegodd John Humphreys gais arall. Seliwyd y fuddugoliaeth yn hwyr yn y gêm gyda thrydedd cais Pwllheli.
Ar ôl cyrraedd ystafelloedd newid Clwb Peldroed Pwllheli a’r Cylch darganfuwyd nad oedd y sustem dŵr poeth yn
gweithio a methwyd a chael cawod. Dyna pryd y rhedodd pump o hogia dewr Pwllheli ar hyd y prom yn eu togs a neidio i’r môr.
Mae enwau’r pump wedi cael ei sgwennu mewn biro ar waelod yr adroddiad; Terry, Jonesy, Dic
Goch, Rhys a Dafydd Edwards.
Ar ddechrau Chwefror 1966 sgoriodd Ysgol Ramadeg Pwllheli eu trydedd fuddugoliaeth o’r bron yn erbyn Coleg Llandrillo.
Canolwr Pwllheli, Wil Martin agorodd y sgorio yn fuan yn y gêm gan wthio’i hun rownd yr ochr dywyll i’r gornel, ac wedyn
ychwanegu at ei sgôr wrth wneud union yr un peth ar ochr arall y cae. Roedd y sgôr yn sefyll ar 11-0 ar hanner amser ar ôl
cais arall gan David Thomas a throsiad Gwynfor Hughes.
Cwblhawyd sgorio Pwllheli yn yr ail hanner gyda dau gais drwy’r bachwr Emyr Huws a’r clo John Humphreys.
Daeth tymor 1966 i ben gyda gêmau yn erbyn y cyn disgyblion ag Ysgol Uwchradd Uxbridge o Middlesex, gyda’r tîm yn llwyddo
i ennill 10 o’r 21 gêm chwaraewyd. Dyma restr o’r chwaraewyr am y tymor :
David Jones (capten)
Rhys Jones
Emyr Hughes
David Thomas
Richard Jones
Eric Baum
Gwyn Jones
Terry Owen
Gwynfor Hughes
Meirion Hughes
Edward Harries
David Williams
David Edwards
Ellis Jones
John Humphreys
Dewi Jones
Richard Pierce
Paul Alderton
Ian Martin
Michael Griffith
Frank Morton
Tom Parry
William Martin
Diolch unwaith eto i John Humphreys am y llun isod. Dyma i chi'r tîm oedd yn fuddugol o 15-5 yn erbyn
Llangefni ar Fawrth 30ain 1968.

Rhes Gefn :
Emlyn Williams * Frank Morton * Richard Ll Jones * Gwyn Jones
John
Humphreys * Martin Jones * Tom Parry * Arnold Paul Jones
Eistedd :
David Roberts * Barry Kelly * Wil Martin * Eric Baum
Michael N Jones *
Michael Griffiths * David Edwards
Chwaraeodd y tîm 13 o gemau yn ystod y tymor gan ennill dim llai nag 11 o'r rhain.
Dewiswyd John Humphreys i chwarae dros Ysgolion Uwchradd Gogledd Cymru yn erbyn Ysgolion Sir Fynwy 'bnawn Sadwrn Tachwedd 4ydd
1967. Cafodd Eric Baum hefyd ei ddewis i chwarae yn yr un tîm y diwrnod hwnnw. Mae'n rhaid i John fod wedi creu gryn argraff gan
iddo gael ei ddewis i chwarae i dîm Mynwy, Gogledd a Chanolbarth Cymru dair wythnos yn ddiweddarach, yn Stadiwm Cwmbran yn erbyn
Dwyrain Morgannwg. Dim ond tri bachgen o'r gogledd oedd yn y tîm, John, V Morris o Llandudno a D Cunnah o Ddinbych.