Penderfynwyd cyflogi hyfforddwr byd enwog i roi hwb i'r tim ar ddechrau'r tymor.
Bryan Going gafodd y dasg o ddod a bywyd newydd i'r tim. Mae Bryan yn frawd i'r enwog Syd Going
oedd ar y pryd yn dal record ceisiau gan fewnwr i'r Crysau Duon.
Yn ol Wil Martin, Cadeirydd y Clwb roedd safon y chwarae wedi
disgyn gryn dipyn ers i'r tim guro Pencampwriaeth Gogledd Cymru bum mlynedd
ynghynt. "Mae'r swigen wedi byrstio," meddai "a cafodd y tim
dymor annodd iawn y
flwyddyn ddiwethaf."
"Ryda ni wedi colli nifer o chwaraewyr, oherwydd amryw resymau ac
mae'n rhaid i ni neud rhywbeth positif i stopio'r sleid. Yn dilyn trafodfaeth
gyda chwaraewyr, swyddogion a chefnogwyr penderfynwyd mai mynd am y gorau
fyddai'r ateb."
Cytunodd Going oedd yn ffarmwr a brocer yswiriant gartref yn
Seland Newydd i aros tan y Nadolig. Daeth drosodd gyda'i wraig Francine a thri
chwaraewr, Craig "Scud" Murray, Karl "Salty" Siteine a Warren Johnston.
Roedd Wil Martin yn sicr fod yna ddigon o dalent i'w gael yn
lleol ond bod angen hwb i gael y tim yn ol i lefel yr oeddynt wedi'i gyrraedd
ychydig flynyddoedd yn gynharach.
"Mae hon yn risg ariannol i glwb bychan fel Pwllheli ond mae'n
rhaid wynebu'r risg os am lwyddo. Yr unig ddewis arall yw aros yn yr unfan."
oedd casgliad Wil Martin.