Search billions of records on Ancestry.com
   
 
  Hafan
  Hafan
 
  Chwaraeon
  Criced
  Hoci
  Peldroed
  Rygbi
 
  Hanes
  Dechreuad
  Blynyddoedd Cynnar
  1961-1970
  1971-1980
  1981-1990
  1991-2000
  2001-ymlaen
  Galeri Lluniau
 
  Gwybodaeth
  Cyswllt
  Cymorth
 

1995-96


Ar ddiwedd eu hail dymor yn y Gynghrair Genedlaethol gorffennodd Pwllheli unwaith yn rhagor y tîm Gogleddol gorau, camp nid ansylweddol i Glwb sy’n recriwtio chwaraewyr o gylch bychan i gymharu â thimau eraill.

Cafwyd tymor caled yn ôl y disgwyl gyda’r trafeilio diddiwedd yn parhau i fod yn broblem sylweddol. Ar ôl tymor mor flinedig mae gan y Clwb y daith i’r Unol Daleithiau i edrych ymlaen ati.

Fe rydd y saib gyfle i bawb adfer ac i edrych ar gryfderau’r garfan. Mae’r pac wedi datblygu llawer o dan hyfforddiant Denleigh Isaac ond bach iawn oedd y gwelliant a welwyd ymysg y cefnwyr er gwaethaf y dalent lleol sydd ar gael.

Doedd y sustem rota ddim yn llwyddiant ychwaith ac fe fydd rhaid scrwtineiddio’r broses o ddewis y tîm ac edrych ar gyfansoddiad y pwyllgor dewis cyn y tymor nesaf.

Mae’r ymrwymiad a ddisgwylir gan y chwaraewyr a’r hyfforddwyr fel ei gilydd yn cynyddu drwy’r adeg ac mae’n amhosib i Glwb fel Pwllheli feddwl am dalu chwaraewyr. Serch hynny mae yna ddealltwriaeth na ddylai neb fod allan o boced. Y tîm cynta’ ydi ffenestr siop y Clwb ac mae’n bwysig fod adnoddau’n cael eu sianelu tuag at feithrin yr adnodd yma.

Gyda phenodiad gweinyddwr fe all Pwllheli unwaith eto ganolbwyntio ar chwilio am nawdd fydd yn hyrwyddo’r gêm. Gallwn yn awr edrych ar ffyrdd o ariannu aros dros nos cyn rhai o’r gemau i ffwrdd o gartref a hefyd cyflenwi dillad chwarae a.y.

Gyda sustemau a chyfleusterau sydd gyda’r gorau yng Ngogledd Cymru mae’n rhaid bod y Clwb yn gwneud rhywbeth yn iawn ond mae yna wastad angen ysgogiad i wella ymhellach.



Canlyniadau.

Cliciwch ar sgôr mewn coch i weld adroddiad o'r gêm.

 Medi 2ail Pwllheli 11 Waunarlwydd 12  Ionawr 6ed Waunarlwydd 37 Pwllheli 5
 Medi 9fed Llandybie 7 Pwllheli 36  Ionawr 13eg Pwllheli 18 Llandybie 10
 Medi 16eg Pwllheli 24 Caerfyrddin Athletig 9  Ionawr 27ain   
 Medi 23ain Pwllheli 22 Pontyclun 3           Cwpan SWALEC Cymru Rownd 1  Chwefror 3ydd  
 Medi 30ain Penygroes 14 Pwllheli 14   Chwefror 10fed Pwllheli 10 Penygroes 16
 Hydref 7fed Pwllheli 10 Aberteifi 9  Chwefror 24ain Aberteifi 10 Pwllheli 3
 Hydref 14eg Sêr Doc Newydd 17 Pwllheli 14  Mawrth 9fed Pwllheli 23 Sêr Doc Newydd 9
 Hydref 21ain Pwllheli 30 Trefynwy 20          Cwpan SWALEC Cymru Rownd 2   Mawrth 23ain Brynaman Pwllheli  
 Hydref 28ain Pwllheli 30 Brynaman 5    Mawrth 30ain Pwllheli Llandeilo  
 Tachwedd 4ydd Llandeilo 24 Pwllheli 19  Ebrill 6ed Penfro 13 Pwllheli 15
 Tachwedd 18ed Fardre 25 Pwllheli 17            Cwpan SWALEC Cymru Rownd 3  Ebrill 13eg Caerfyrddin 37 Pwllheli 20
 Tachwedd 25ain Pwllheli 13 Penfro 7  Ebrill 20fed Pwllheli 16 Rhydaman 19
 Rhagfyr 2ail Rhydaman 30 Pwllheli 0  Ebrill 27ain Cwins Doc Penfro 0 Pwllheli 27
 Rhagfyr 9fed  Pwllheli 76 Cwins Doc Penfro 14  Ebrill 30ain Pwllheli Llandudno Cwpan MANWEB 

Cynlluniwyd gan: Keith Parry Hawlfraint 2006