Search billions of records on Ancestry.com
   
 
  Hafan
  Hafan
 
  Chwaraeon
  Criced
  Hoci
  Peldroed
  Rygbi
 
  Hanes
  Dechreuad
  Blynyddoedd Cynnar
  1961-1970
  1971-1980
  1981-1990
  1991-2000
  2001-ymlaen
  Galeri Lluniau
 
  Gwybodaeth
  Cyswllt
  Cymorth
 

1994-95



Bu Medi 3ydd 1994 yn ddiwrnod hanesyddol i Glwb Rygbi Pwllheli – gêm gynta’r Clwb yng Nghynghrair Heineken, i ffwrdd yn erbyn Merthyr.

Bedydd tân yn sicr gan fod Merthyr wedi arwyddo nifer o chwaraewyr enwog. Mae cyn asgellwr Abertawe, Mark Titley yn chwarae maswr a chyn chwaraewr rhyngwladol arall, Alun Donovan yn y canol. Mae Steve Sutton, a enillodd gap i Gymru pan yn chwarae i Heddlu De Cymru hefyd ar gael. Y bedwaredd seren yw Meirion Pugh aeth ar daith i Dde Affrica gyda Chymru ychydig flynyddoedd yn ôl.

Bu’r Pwllheli'n brysur iawn dros fisoedd yr haf. Mae’r cyfleusterau ymarfer wedi cael eu gwella gydag ystafell codi pwysau newydd bron a’i chwblhau, y llif oleuadau ar fin cael eu huwchraddio a chynlluniau ar gyfer gwarchod y cefnogwyr rhag y tywydd ar y gweill.

Yn dilyn tymor mor llwyddiannus, y gobaith yw y gall y chwaraewyr barhau i wella a dal eu tir yn y Gynghrair newydd. Mae safon y rygbi’n saff o fod y uwch a disgwylir gêmau caled corfforol, a gyda llawer mwy o drafeilio toes neb yn cymryd y dasg yn ysgafn. Ennill neu golli mae pawb yn edrych ymlaen at y sialens.

Yn anffodus mae yna amheuaeth ynglŷn â ffitrwydd amryw o chwaraewyr Pwllheli, gyda’r mewnwr, Gary Williams, clo James Evans a Simon Butterworth yn annhebyg o gychwyn y gêm. Er yr anawsterau hyn mae yna amryw o hen bennau’r tîm wedi dychwelyd, chwaraewyr megis yr asgellwr Bryn Williams a’r canolwr Brian Hughes. Mae pawb yn falch o weld Simon Butterworth yn dychwelyd; mewnwr dawnus iawn gyda phrofiad o chwarae ar lefel taleithiol yn Seland Newydd. Fe fydd ei brofiad yn amhrisiadwy yn ystod y tymor heb os, a gyda thri mewnwr arall wedi cynrychioli Gogledd Cymru yn y sgwad mae gan Bwllheli ddigonedd o sgil yn y safle yma. Yn ychwanegol i Simon mae Graham Davies, Iwan Hughes ac wrth gwrs Gary Williams ar gael.


Canlyniadau.
Cliciwch ar y sgôr mewn coch i weld adroddiad o'r gêm.

 Medi 3ydd Merthyr 23 Pwllheli 15  Ionawr 7fed Pwllheli 0 Merthyr 23
 Medi 10fed Pwllheli 3 Tredelerch 24  Ionawr 14eg Tredelerch 45 Pwllheli 5
 Medi 17eg Tonmawr 14 Pwllheli 8  Ionawr 28ain Pwllheli 38 Y Trallwng 10       Cwpan MANWEB
 Hydref 1af Pwllheli 0 Cwins Caerdydd 24  Chwefror 4ydd Pwllheli 9 Tonmawr 6 
 Hydref 8fed Felinfoel 21 Pwllheli 6  Chwefror 11eg Cwins Caerdydd 20 Pwllheli 6 
 Hydref 15fed Pwllheli 11 Hendy 18  Chwefror 25ain Pwllheli 17 Felinfoel 8   
 Hydref 22ain Pwllheli 41 Blaenafon 12   Cwpan SWALEC Rownd 2  Mawrth 11eg Hendy 5 Pwllheli 0 
 Hydref 29ain Abercarn 23 Pwllheli 5  Mawrth 16eg Bethesda 7 Pwllheli 18          Cwpan MANWEB
 Tachwedd 5ed Blaendulais 14 Pwllheli 3  Mawrth 25ain Pwllheli 16 Abercarn 24   
 Tachwedd 12fed Pwllheli 11 Wrecsam 5   Ebrill 1af Pwllheli 9 Blaendulais 13  
 Tachwedd 19eg Pwllheli 21 Pontypwl 13        Cwpan SWALEC Rownd 3  Ebrill 8fed Wrecsam 8 Pwllheli 19
 Tachwedd 23ain Pwllheli 34 Harlech 0   Ebrill 12fed Yr Wyddgrug 19 Pwllheli 0
Cwpan MANWEB Gogledd Cymru
 Rhagfyr 3ydd Aberteifi 18 Pwllheli 3  Ebrill 15fed Pwllheli 3 Aberteifi 16
 Rhagfyr 10fed  Pwllheli 0 Garndiffaith 10   Ebrill 29ain Garndiffaith 20 Pwllheli 13
 Rhagfyr 17eg Tondu 40 Pwllheli 9             Cwpan SWALEC Rownd 4    


Yn dilyn tymor caled yn y Gynghrair Heineken roedd swyddogion Pwllheli’n dal i gredu fod y Clwb wedi gwneud y peth iawn ac wedi elwa llawer iawn o’r profiad. Er gwaethaf yr holl drafeilio ni welai'r ysgrifennydd, Bryn Martin unrhyw opsiwn ond i barhau.

“Tydi aros yn yr unfan ddim yn opsiwn. Mae’r rhaid symud ymlaen gyda’r amser a’r system Gynghrair. Ond wedi gwneud y penderfyniad mae’n anodd mynd yn ôl.” meddai.

“Does dim amheuaeth mai’r elfen trafeilio yw’r broblem fwyaf, a’r gobaith ydi y gwnaiff URC bopeth i esmwytho pethau. Petai Pwllheli, Wrecsam, Yr Wyddgrug ac efallai un tîm arall o’r Gogledd yn yr un Adran y tymor nesaf mi fasa pethau’n llawer haws.” oedd un cynnig ganddo.

“Byddai cymryd ychydig o amser wrth baratoi’r amserlen fel bod y tripiau hir yn cael eu rhannu allan hefyd yn help.”

“Ond yr unig ffordd i wella yw wrth chwarae yn erbyn timau cryfach a dysgu o hynny. Mae pawb yn siomedig ofnadwy lwyddo i aros i fyny yn Adran 5, ond edrychwn ymlaen at gymryd ein lle yn Adran 6 y tymor nesaf gyda’r bwriad o symud yn ôl i fyny yn syth. Rhaid peidio anghofio ein bod ni o’r Gogledd wedi bod yn crefu am gael chwarae mewn Cynghrair genedlaethol.”

“Ddyliwn ni ddim bod yn cwyno gormod am fod y safon yn uwch na’r disgwyl, ei bod hi’n rhy galed, rhy flinedig ac yn rhy bell i drafeilio.”

Roedd Wil Martin hefyd yn edrych ymlaen at y tymor newydd wrth adlewyrchu ar dymor mwyaf y Clwb hyd yma.

“Rydan ni i gyd, bob un ohonom ni wedi dysgu llawer iawn dros y tymor ac mae pawb yn ddyledus dros ben i’r chwaraewyr, am y teyrngarwch a’u ffyddlondeb pan oedd pethau yn galed. Gall bawb edrych yn ôl gyda balchder ac i’r dyfodol gyda hyder. Mae ganddo ni sgwad ifanc iawn yma a does dim rheswm pam na allwn edrych ymlaen am ddyfodol disglair dros ben.”


Adran V
Cynghrair Heineken
Tîm Ch E Cyf C Cais Pt
Tredelerch 22 19 1 2 89 39
Merthyr 22 16 1 5 71 33
Blaendulais 22 12 1 9 34 25
Hendy 22 11 1 10 32 23
Abercarn 22 10 3 9 30 23
Tonmawr 22 11 1 10 26 23
Cwins Caerdydd 22 11 0 11 44 23
Felinfoel 22 10 1 11 38 21
Garndiffaith 22 10 1 11 37 21
Aberteifi 22 9 3 10 33 21
Pwllheli 22 4 0 18 12 8
Wrecsam 22 2 1 19 23 5

Cynlluniwyd gan: Keith Parry Hawlfraint 2006