Search billions of records on Ancestry.com
   
 
  Hafan
  Hafan
 
  Chwaraeon
  Criced
  Hoci
  Peldroed
  Rygbi
 
  Hanes
  Dechreuad
  Blynyddoedd Cynnar
  1961-1970
  1971-1980
  1981-1990
  1991-2000
  2001-ymlaen
  Galeri Lluniau
 
  Gwybodaeth
  Cyswllt
  Cymorth
 

1984-85


Agorwyd y tymor ar nodyn uchel iawn gyda’r ‘Cymry yn Llundain’ yn chwarae tîm Gogledd Cymru yma ar ein maes ni ym Modegroes, a mawr fu’r paratoi am y gêm fawr. Dyma oedd gan y Cadeirydd, Wil Martin i ddweud yn y rhaglen.

Bydd deuddegfed tymor Clwb Rygbi Pwllheli'n cychwyn ar yr 2ail o Medi yn y modd mwyaf cyffrous posibl gydag ymwleiad parti o Glwb Rygbi Y Cymry yn Llundain. Mae'r Clwb wedi cyflawni llawer iawn mewn cyfnod cymharol fyr, ac mae hynny'n deyrnged i'r Pwyllgor Rheoli sydd ers y cychwyn wedi cadw traed   pawb ar y ddeuar.

Mae'n bleser ac yn fraint i mi gael estyn croeso cynnes iawn i'n gwesteion alltud o Lundain a'n ffrindiau o Ogledd Cymru. Rwy'n falch fod y fintai Ogleddol yn Llundain wedi gallu perswadio'n gwesteion enwog i ddod i chwarae ym Modegroes. Gobeithiaf yn fawr y bydd disgrifiad David Parry Jones o Bwllheli fel 'tref lan y mor gysglyd ym mhen draw Llyn' wedi colli'r gair 'cysglyd' erbyn diwedd y noson.

Pur anaml bydd y Gogledd yn cyd-chwarae i gymharu a'u gwrthwynebwyr ond un fantais sydd ganddynt yw cael Mr Tony Gray yn hyfforddwr. Mae ei ddawn fel chwaraewr yn wybyddus i bawb yn y Gogledd, ac mae ei brofiad a'i allu'n amlwg wrth edrych ar safon uchel tîm y Brifysgol ym Mangor.

Mae yna nifer o Bwllheli yn rhengoedd y Gogledd a bydd y gem yma yn siwr o fod gyda'r galetaf y byddent wedi'i chwarae eto. Rwy'n siwr o fod yn ategu teimlad pawb o'r ardal hon wrth obeithio'r gorau iddynt yn y gem.

Mae Parti Cymry Llundain yn byrlymu a thalent, gymaint felly fel y byddai'n amhosibl gwneud cyfiawnder a nhw wrth fanylu. Mae eu trefniadau ar ac oddiar y cae o'r gradd flaenaf a gobeithiwn allu dysgu ychydig o'r profiad hwn. Yn eu capten, Clive Rees mae ganddynt un o'r asgellwyr cyflymaf erioed i chwarae i Gymru ac nid cyd-ddigwyddiad mai ei lun ef sydd ar flaen y rhaglen hon. Dymunwn yn dda iddo yn ei flwyddyn fel capten.

Mae'r ymweliad hon wedi creu llawer o ddiddordeb achryn gynnwrf yn lleol, ac fel Clwb iau, (sydd wedi gwneud cais am uwch statws) mae wedi golygu galw ar adnoddau o sawl cyfeiriad i lwyfanu digwyddiad o'r fath.

Mae'r degawd diwetha wedi gweld chwyldro o fewn y gêm Ngogledd Cymru a naw'r efallai yw'r amser i eistedd yn ol am funud i feddwl sut y gallwn symud ymlaen i'r lefel nesaf. Mae yna ddigon o dalent naturiol i'w gael ond onibai fod hwn yn cael ei feithrin a'i annog yn ofalus fedrwn ni disgwyl parhau i wella.

Mae fy nyled yn fawr i gefnogwyr Pwllheli ac i haelioni'r noddwyr sydd wedi'i gwneud hyn i gyd yn bosibl

I ddiweddu hoffwn roi croeso cynnes i chwaraewyr a swyddogion y ddau dim ac i ddymuno tymor llwyddianus i bawb.

Wil Martin CADEIRYDD CLWB RYGBI PWLLHELI


   


Mae'n rhaid fod y gêm yn erbyn Y Cymry yn Llundain wedi cael dylanwad ar y tim gan iddyn nhw lwyddo i gyrraedd Rownd Derfynol Cwpan Howells ar ddiwedd y tymor. Chwaraewyd y gêm ar Barc Bodegroes ar y 4ydd o Fai 1985 yn erbyn Undeb Rygbi Adran Caerdydd. Dyma'r tro cyntaf i'r Gogledd gyrraedd y Rownd Derfynol, ond mae gan Caerdydd record penigamp yn y gystadleuaeth ar ol ei hennill nifer o weithiau yn y gorffennol.


Cynlluniwyd gan: Keith Parry Hawlfraint 2006