Wrth baratoi at gychwyn y tymor ‘roedd gan y capten Tom Roberts ddigon o ddewis ymysg chwaraewyr ifanc oedd yn dechrau
dangos eu gwerth megis Ian Studt, Simon Butterworth, Iwan Griffith a Simon Dennis. ‘Roedd Arthur Williams wedi sefydlu ei
hun yn y tîm a chwaraeodd yn rheolaidd yn ogystal â John Morris, Terry Evans, Paul Martin a Colin Studt. Atgyfnerthwyd y
rheng flaen wrth i feddyg ifanc o’r Alban, Alan McKenzie, ddod i weithio am gyfnod i feddygfa Treflan.
Yn hytrach na chwarae Benllech yn ôl yr arfer bu’n rhaid chwarae gartref yn erbyn Yr Wyddgrug yn rownd gyntaf cwpan y
Gogledd i gychwyn y tymor i ffwrdd. Chwaraeodd Pwllheli’n dda iawn y diwrnod hwnnw gyda’r tîm yn dangos digon o fedr a dawn.
Er mai colli i drosgais yn dilyn rhyng-gipiad a dewiniaeth maswr Gogledd Cymru, Mark Ferguson fu’r hanes, ‘roedd yna
hyder amlwg o fewn y Clwb a disgwyliadau am dymor llwyddiannus o’m blaenau.
Chwalwyd Caergybi a Phort yn y ddwy gêm nesaf ac ‘roedd pethau’n mynd yn dda pan anafwyd Simon Butterworth wrth ymarfer.
Gyda Dewi Owen eisoes allan dewiswyd Graham Davies, a oedd yn 16 oed ar y pryd ar gyfer gêm yn erbyn Benllech. Fel mae’n
digwydd tynnodd Benllech yn ôl ar y nos Iau, ond ‘roedd y trefnydd gemau, Ken Davies, wedi trefnu gêm arall i’r tîm erbyn
y nos Wener, i ffwrdd yn erbyn Y Rhyl. Gwrthwynebwyr llawer mwy ffyrnig na Benllech, a chlwb dosbarth cyntaf yn y Gogledd.
Penbleth y capten oedd unai newid y mewnwr am rywun hŷn a mwy profiadol a siomi Graham, neu dangos ffydd ynddo a cheisio
ei gynnal mewn rhyw ffordd yn ystod y gêm. Chwaraeodd Graham, ond rhybuddiodd Tom y tîm cyn mynd allan, pe bai rhywun yn
gosod pen bys arno fod pawb i blannu i’r gwffas. Atgof o’r hyn a ddigwyddodd i Ian Studt yn Yr Wyddgrug rhyw ddeunaw mis
yng nghynt yn glir yn ei feddwl, mae’n siŵr.
Sgoriodd John Morris i roi Pwllheli ar y blaen, a siŵr i chi, cafodd Graham gleran yn fuan wedyn gan flaen asgellwr
Y Rhyl. Yn ôl gorchymyn y capten aeth pawb ati i waldio'r peth agosaf ato, a chafodd y dyfarnwr gryn drafferth i
adennill
unrhyw fath o drefn. Cynhyrfwyd rywfaint ar rythm Pwllheli ar ôl hyn ac ‘roedd Rhyl 12-6 ar y blaen ar hanner amser, ond
daeth Pwllheli’n ôl yn yr ail hanner gyda dwy gôl gosb Paul Martin i sicrhau gêm gyfartal.
Wedi’r gêm aeth hogia Y Rhyl i ryw gongl bell o’r clwb ac ni fu cyfathrebu o gwbl rhwng y ddau dîm. Yn digwydd bod, y
gŵr yng ngofal y bar y pnawn hwnnw oedd Meirion Hughes, mab cyn weinidog Capel Penmount R. Gwilym Hughes. Edrychodd
Meirion ar ein holau yn gampus. Un peth a ddysgwyd y diwrnod hwnnw oedd, nad yw pob taith i’r Rhyl yn drip ysgol Sul.
‘Roedd y pumed o Dachwedd yn ddiwrnod arbennig i’r clwb pan chwaraeodd pedwar tîm. Gelwid y ddau dîm isaf yn dimau 3A
a 3B oherwydd dewiswyd y ddau yn gyfartal. Dau dîm yn erbyn Tywyn a dau yn erbyn Abergele a’r pedair gêm yn cael ei chwarae
gartref; dwy ym Modegroes a dwy ar gaeau Ysgol Glan y Môr. Gyda llaw enillwyd y pedair gêm. Chwaraeodd y pedwerydd tîm bum
gêm i gyd yn ystod y tymor.
Cafwyd rhediad llwyddiannus dros ben yng Nghwpan y Bragwyr, cyn colli mewn gêm galed yng Nglyncorrwg. Chwaraeodd Pwllheli
yn eu dull agored arferol, steil oedd wedi profi mor llwyddiannus trwy’r tymor a sgoriodd Ken Jones gais yn gynnar yn y gêm.
Tacteg Glyncorrwg oedd cadw’r gêm yn dyn ar bob cyfrif. Amlygwyd hyn yn glir ar un achlysur yn hwyr yn y gêm pan daflodd
un o’r canolwyr bas hir a chael clusten gan ei gapten am ei hyfdra.
Cafwyd ornestau tra llwyddiannus yn erbyn Caernarfon, enillwyd pob un o’r chwe gêm yn eu herbyn. Yng ngemau mis Ionawr y
tri sgôr oedd 17-3, 67-0 a 56-0. Perswadiodd y capten Tom Roberts, gapten Caernarfon, Teifion Thomas, i gyflwyno peint i Mel
Jones am ildio cig gosb a roddodd unig bwyntiau i Gaernarfon yn y gemau hyn, a chwarae teg i Teifion ymunodd yn yr hwyl, er,
mae'n siŵr, ei fod o'n corddi.
Bu’r trip i Furness yn hwyl go iawn, er i ni golli gêm agos iawn. Un peth a synnodd chwaraewyr Pwllheli oedd i’r
dyfarnwr fygwth gyrru Simon Butterworth i ffwrdd o’r cae am roi'r bêl i mewn i’r sgrym yn gam.
Brwydrodd y tîm i rownd derfynol Tlws y Gogledd, tlws ar gyfer pedwar tîm mwyaf llwyddiannus Cwpan y Bragwyr, trwy guro
Bro Ffestiniog yn y rownd gyn derfynol mewn gêm agos arall. Bu hen edrych ymlaen at y rownd derfynol, ar Ddydd Sadwrn y
Pasg, yn erbyn Dinbych. Hon oedd y rownd derfynol gyntaf i’r clwb gyrraedd yn ei hanes ond siomwyd y dorf fawr wrth i’r
tîm fethu cymryd mantais o amryw i gyfle a cholli’r gêm 6-3.
Drwyddi draw ‘roedd canlyniadau’r tîm yng ngemau Cyngrhair Gwynedd yn ddigon da i sicrhau ein bod yn ennill y Gyngrhair
am y tro cyntaf ers 1979-80.
T W Roberts.