Ennillodd Ian Studt ei gap cyntaf i dim Gogledd Cymru ar ddechrau'r tymor yn y gem chwaraewyd yn erbyn y Crawshays. Trefnwyd
y gem i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu Undeb Rygbi Gogledd Cymru. Crawshays Cymru yw'r unig dim twrio heblaw am y Barbariaid
sy'n chwarae gemau adref a thramor. Mae dros 250 o chwaraewyr rhyngwladol Cymru wedi chwarae i'r tim ers ei sefydlu yn 1922.
Ymysg y swyddogion yn bresennol yn y gem oedd y Llywydd, Cyrnol Syr William Crawshay a'r Barnwr Anrhydeddus Rowe Harding yr
unig un o dim 1922 sy'n dal yn fyw.
Yn nhim y gwrthwynebwyr y diwrnod hwnnw oedd dau o dim y Llewod, Alan Martin o Aberafon a Clive Williams, Abertawe.
Colli wnaeth Gogledd Cymru o 25-12 a hynny ar ol bod ar y blaen ddwy waith yn ystod y gem.
Ym mis Chwefror 1983 ag yntau'n fyfyriwr yn Athrofa De Morgannwg cafodd Ian Studt ei hun yn nhim Colegau Cymru yn
chwarae yn erbyn Tim Ieuenctid Cymru.
Yng nghanol mis Hydref mentrodd y Clwb ar daith i ardal Nantes yn Ffrainc ond tywyllwch gafwyd cyn chwarae eu gem olaf. Cafwyd
methiant ar y sistem llif-oleuadau a gan fod yna streic drydanwyr yno bu'n rhaid galw'r gem i ffwrdd. Er hyn cafwyd tipyn o hwyl
a churwyd y dair gem chwaraewyd, y gyntaf o 42-10 yn erbyn Prifysgol Nantes, 16-0 yn erbyn Municipal Nantes a 31-14 yn erbyn
Bassebasse Goulaine.
Sgoriwyd cyfanswm o 17 cais gyda Kevin Rice Hughes yn cael pedair, y prop Ian Studt a'r mewnwr Simon Butterworth yn cael tair
yr un. Paul Martin sgoriodd fwyaf o bwyntiau gyda 24.
Yn ystod ail hanner 1982 dechreuwyd printio papur newydd Dydd Sul yn y Gymraeg, o’r enw ‘Sulyn.’
Canolbwyntiai ar newyddion cyfoes o gwmpas ardal Gwynedd. Yn yr adran chwaraeon yn y cefn ceir adroddiadau gemau pêl
droed a rygbi lleol, canlyniadau Cynghreiriau Pŵl a Darts Caernarfon a’r Cylch yn ogystal â tips rasio ceffylau Wil Bach.
Yn ychwanegol ceir erthyglau ‘Rownd y clybiau rygbi’ a thro Pwllheli oedd hi i fod o dan y chwydd-wydr yn
rhifyn Rhagfyr 19eg.
Pwllheli yn chwarae yn y tywyllwch oedd y pennawd y diwrnod hwnnw.
Mae Clwb Rygbi Pwllheli’n gobeithio y medran nhw chwarae gems yn y dyfodol pryd fydd hi’n dywyll, a hynny heb droi’r
chwaraewyr yn dylluanod.
Eglurodd Wil Martin sy’n Gadeirydd y Clwb Rygbi bod nhw’n gobeithio bydd y gwaith o godi goleuadau yn dechrau yn y
gwanwyn, ac yn y pen draw y bydd hi’n bosibl chwarae gems gems llawn o danyn nhw.
Mae hi’n ddeng mlynedd ers i Glwb Rygbi Pwllheli gael ei ffurfio ac mae’r tîm a’r clwb wedi datblygu’n aruthrol ers
iddyn nhw chwarae’r gêm gynta’ swyddogol yn 1972, yn Llangefni. Pan gychwynnodd y clwb yn 1972 ychydig o dimau oedd yn y
cylch ac yn ôl Mr Martin “Dim ond drwy ffonio timau fel Harlech, Caernarfon, Dolgellau a Bae Colwyn roedden ni’n cael gems.”
Ar y dechrau roedd pob gêm yn cael ei chwarae i ffwrdd o Bwllheli ac o’r chwaraewyr oedd gyda’r clwb yn 1972 mae Geraint
Lloyd Williams, William Owen a Gareth Parry yn dal i fynd. “Dibynnu ar bobl broffesiynol fel Eric Lewis twrna, Elwyn Owen a
Dr Elwyn Williams i gael trefn a rhoi cymorth i’r clwb oedan nhw yn y cychwyn,” eglurodd Mr Martin - nid proffesiynol yn
ystyr Adidas chwaith!
Ar ôl cwpwl o flynyddoedd mi gafodd y clwb goblyn o hwb ymlaen pan ddaru Anthony Penmaen Jones roi tir oedd ganddo ar
y ffordd i Efailnewydd i Adran Chwaraeon Pwllheli.
Tydi’r clwb ddim yn derbyn unrhyw grant gan gorff cyhoeddus wedyn trwy drefnu raffls a gweithgareddau wedi eu noddi maen
nhw yn cael arian. “Ryda ni’n lwcus bod pobl Llyn a Phwllheli mor gefnogol i ni,” meddai Mr Martin.
Fyddai neb yn dadlau petai’r enw’n cael ei newid i Glwb Pen Llyn gan fod yna rhai o’r Ffôr, Nefyn, Aberdaron, Abersoch
a Chwilog yn arfer dod draw i’r ymarfer.
Bellach mae gan Bwllheli 80 o chwaraewyr ar y llyfrau ac mae gan y clwb dri thîm yn chwarae’n rheolaidd. Hyd yma mae’r
ddau dîm cynta’ yn cael tymor arbennig o dda. O’r 21 gêm mae’r tîm cynta’ wedi chwarae maen nhw wedi curo 16 gan golli
pedair gydag un gyfartal. Yn barod maen nhw wedi sgorio dros 500 pwynt gyda Paul Martin yn sgorio 135 o bwyntiau a Kevin
Rice Hughes yn sgorio 18 o geisiadau.
Mae Pwllheli’n falch iawn o’u hail dîm ac wrth edrych ar eu record mae’n hawdd gweld pam. Mewn tri thymor maen nhw wedi
ennill tua 93 gêm gan golli dim ond wyth. Dydi’r record ddim llawn mor ddisglair eleni, ond maen nhw wedi curo 11 o’i 14 gêm.
Eglurodd Wil Martin fod y tîm yn cryfhau bob tymor rŵan gyda Colin Parry yn dangos ei allu fel sbardun i’r gweddill
o’r hogiau wrth eu harwain. Teimlad Wil Martin ydi “bod safon y clwb wedi codi lot yn ystod y pedair blynedd ddiwetha’.
Mae’r platform yna rŵan. Yr hyn rydan ni eisio ydi hwb i’n codi ni eto.”
Oherwydd gwaith Arfon Jones mae’r tîm yn ffit ond be fyddai Mr Martin yn leicio’i weld rŵan fyddai coach o unrhyw
ran o Wynedd sy’n barod i gynnig ei wasanaeth i helpu’r tîm gyda dysgu techneg a symudiadau.
Ar daith i Lydaw yn ystod yr Hydref cafodd yr hogiau gyfle i chwarae yn erbyn math o rygbi cwbwl wahanol ac mi gawn
nhw gyfle arall i gyfarfod a thîm o Lydaw yn y Pasg pan mae tîm o Brifysgol Nantes yn ymweld â Phwllheli.
Dylai llwyddiant Clwb Rygbi Pwllheli fod yn esiampl a chalondid i’r timau eraill yng Ngwynedd sy’n trio sefydlu’i
hunain. Trefn ydi’r peth pwysig yno. Trefn a pharodrwydd unigolion i roi egni ac amser i’r clwb.