Tymor digon siomedig gafwyd ar y cyfan, o dan law'r capten newydd Tom Roberts, gyda’r tîm ond yn llwyddo i ennill 9 o’r
17 gêm a oedd yn cyfri yn y gynghrair. ‘Roedd pethau wedi cychwyn yn addawol iawn hefyd gyda’r tîm yn sgorio chwe chais yn
erbyn Benllech. Richard Humphreys yn sgorio tair. Curo Porthmadog wedyn ar y Nos Fercher canlynol cyn curo Bangor mewn
gêm glos o 6-3. Dwy gôl gosb gan Paul Martin. Hon oedd gêm olaf y tymor i Wyn Rowlands, chwaraewr medrus iawn a phrif
ffynhonnell y bêl o’r llinellau.
‘Roedd cael gêm yn erbyn Bangor yn dipyn o bluen yng nghap yr ysgrifennydd gemau Ken Davies oherwydd ‘roedd Bangor yn
dîm dosbarth cyntaf, yn y Gogledd, ac yn arferol byth yn derbyn gêm yn erbyn clwb israddol (eu barn nhw wrth gwrs) fel
Pwllheli. Mae’n debyg bod Dafydd ‘Tŵr’ Jones wedi rhoi ei big i mewn a pherswadio swyddogion Bangor eu bod yn cael
gwahoddiad i Fodegroes i chwarae gêm i ddathlu agor estyniad ar y clwb. Ni chafodd Pwllheli ddyrchafiad i fod yn glwb
dosbarth cyntaf tan ddiwedd tymor 85/86.
Aeth y tîm i Ffestiniog yn llawn hyder ond heb Wyn Rowlands a methodd y blaenwyr ennill digon o’r bêl. ‘Roedd diffyg
taldra, ymysg y blaenwyr, a’r gallu i ennill pêl dda o’r llinellau yn broblem a lesteiriodd y tîm trwy’r tymor i ddweud y
gwir. Colli wedyn gartref i Gaernarfon, yn y Brifysgol a gartref i Ddolgellau 11-10 yng Ngwpan Gwynedd. Sgoriodd Pwllheli
dwy gais dda trwy Tom Roberts a John Morris ond methwyd tair cynnig i drosi gôl gosb ym munudau ola'r gêm. ‘Roedd Paul
Martin wedi chwarae ei gêm olaf o’r tymor yn erbyn Bro, a bu mantell ciciwr yn cael ei wisgo gan lawer i aelod o’r tîm heb
fawr o lwyddiant tan i Dewi Caerau ysgwyddo’r baich yn niwedd Mis Chwefror. Rhyw dymor felly ‘roedd hi, gyda rhai perfformiadau
da ac ambell i chwaraewr yn torri i mewn i’r tîm cyntaf tua diwedd y tymor fel Paul Thomas, Michael Chapman, Arthur ac
Elwyn Caeau Gwynion.
Gêm a safodd allan y tymor yma oedd honno a chwaraewyd yn Yr Wyddgrug. Lloriwyd Ian Studt gan chwarae brwnt iawn ac
‘roedd cryn ddrwg deimlad trwy gydol gweddill y gêm. ‘Roedd Yr Wyddgrug yn dîm profiadol iawn, ar y pryd, ac yn rhy dda i
ni, a chwarae felly yn hollol ddi-angen. Hon oedd y gêm olaf ‘friendly’ i ni chwarae yn erbyn tîm 1af Yr Wyddgrug.
‘Dropped from the fixture list’ oedd hi wedyn wrth iddynt fynd dros y ffin i chwilio am wrthwynebwyr mwy teilwng.
Oes felly oedd hi.
Chwaraeodd Bryn Martin pob gêm o’r tymor yn fewnwr a chollodd Tom Roberts dim ond
dwy gêm. Dwy gêm hefyd gollodd Ian Studt,
Gareth Parry a John ‘Milgi’ Griffith a dewiswyd 39 o wahanol chwaraewyr i gyd. Sgoriodd tri chwaraewr 3 cais mewn gêm Richard
Humphreys yn erbyn Benllech, Kevin Rice Hughes yn erbyn Porthmadog a Dewi Owen ‘Caerau’ yn erbyn Abergele.
T W Roberts 2006.