Search billions of records on Ancestry.com
   
 
  Hafan
  Hafan
 
  Chwaraeon
  Criced
  Hoci
  Peldroed
  Rygbi
 
  Hanes
  Dechreuad
  Blynyddoedd Cynnar
  1961-1970
  1971-1980
  1981-1990
  1991-2000
  2001-ymlaen
  Galeri Lluniau
 
  Gwybodaeth
  Cyswllt
  Cymorth
 

1973-74


Un o dîmau cyntaf Clwb Rygbi Pwllheli.


Rhes gefn : John Jones * Bryn Jones * Dei Edwards * Guto Wyn * E J Jones * Geraint Ll Williams
Gareth Parry * Robin Evans * Meirion V Jones
Rhes flaen : G P Jones * Pete Roberts * J B Hughes * T Roberts * R J M Thomas * Pete Scott


Yn ymwybodol na fyddai’r Clwb Rygbi’n ffynnu heb gartref parhaol, a’r gobaith o gael chwarae ar y Rec yn ansicr aeth y pwyllgor o gwmpas chwilio am lecyn o dir. Methwyd a chael gafael ar ddim o fewn y dref ond roedd Mr Anthony Jones, Penmaen wedi dangos diddordeb i gynnig les ar naw acer o dir ym Modegroes, ar gyrion Efailnewydd at ddefnydd y Clwb.

Cafwyd y syniad yn fuan iawn y byddai’n fanteisiol i ymuno a’r Clwb Criced. Symudwyd yn sydyn, ac erbyn mis Hydref 1972 roedd y Clwb Criced wedi datgan diddordeb i ymuno mewn egwyddor.

Trefnwyd cyfarfod gyda Mr Sam Griffiths, cynrychiolydd y Cyngor Chwaraeon ac aethpwyd ag ef o gwmpas Bodegroes. Cadarhaodd y byddai’r Cyngor yn edrych yn ffafriol ar Glwb aml bwrpas ac y byddai grantiau sylweddol yn bosibl i gynllun o’r fath.

Yn y cyfamser anfonwyd dirprwyaeth i gyfarfod y Cyfarwyddwr Addysg i geisio caniatâd i chwarae gêmau cartref a’r gaeau Ysgol Glan y Môr.

Ffurfiwyd Clwb Chwaraeon Pwllheli ar 7fed o Awst 1973, gyda Pwyllgor Llywio o dan gadeiryddiaeth Mr Eric Lewis yn gyfrifol am ddatblygu syniadau ar gyfer datblygu’r safle i’w rhoi gerbron Pwyllgor Blynyddol y Clwb ym mis Mawrth 1974.

O fewn chwe mis ac fel canlyniad i lawer o waith caled gan nifer o bobl roedd cynlluniau ar gyfer gosodiad y caeau a thŷ clwb newydd wedi’u paratoi, ynghyd a manylion drafft o gyfansoddiad y Clwb. Sicrhaodd yr holl ymroddiad bod gêmau rygbi yn bosibl ym Modegroes yn ystod tymor 1973-74.

Dyma oedd gan R J M Thomas, capten y Clwb i’w ddweud ar ddiwedd yr ail dymor.

"Cychwynnodd y tymor ar nodyn uchel gyda’r tîm cyntaf yn ennill yn erbyn ‘yr hen elyn,’ Llangefni gan ddilyn gyda buddugoliaeth lethol gartref yn erbyn clwb newydd o Benrhyndeudraeth. Roedd lwc yn ein herbyn yn y gêm nesaf yn Nolgellau gyda dwy gic cosb yn fuan yn y gêm yn selio ffawd y tîm, gêm glos ddaeth ag atgofion i’r meddwl o’r golled o un pwynt yn y gêm gyffelyb y tymor blaenorol."

"Chafwyd mo’r un hwyl weddill y tymor. Ar ôl bod i lawr o 22-0 ar hanner amser yng Nghaergybi yng Nghwpan Gogledd Cymru cwffio yn ôl yn yr ail hanner a dim ond colli yn y diwedd o 22-18. Methu hefyd ar y glwyd gyntaf yng Nghwpan y Bragwyr, yn erbyn Dolgellau, a’r siawns o ddenu un o glybiau mawr De Cymru i Fodegroes wedi diflannu, am y tymor yma beth bynnag. Gwell fyddai peidio sôn am y golled yn Rhuthun!"

Cafodd y capten, Geraint Lloyd Williams, anaf drwg a bu’n rhaid iddo stopio chwarae a rhoi fyny’r gapteiniaeth oherwydd hyn. Roedd hyn yn golled fawr i’r tîm, ond methwyd a chadw Gerry draw o Fodegroes yn hir iawn.

Mae’n rhaid gwneud sylw yma o chwaraewyr dŵad cyntaf y clwb. Daeth Eric Bennett drosodd am ychydig wythnosau i wylio’r Crysau Duon ar eu taith ym Mhrydain a gorffen i fyny yn chwarae i Bwllheli. Mae yna son na fu Bangor yr un fath ar ôl ei ymweliad yno! Hefyd, cafodd y Clwb y fraint o gael Barry o Awstralia yn aelod o’r tîm yn ystod y tymor.

Methwyd a chynnal y brwdfrydedd a ddangoswyd yn y sesiwn ffitrwydd cyntaf pan welwyd dros 35 o chwaraewyr yn bresennol. Efallai bod gan hyn rywbeth i’w wneud a’r ffaith bod yr ymarferion hyn yn cymryd lle ar fore Sul. Mae pethau’n argoeli’n well ar nosweithiau Iau yn Ysgol Botwnnog. O dan law feistrolgar Len Humphreys mae lefel ffitrwydd yr hogia wedi codi’n sylweddol, ond mae angen cael presenoldeb pawb yma hefyd.

Dangosodd adroddiad ariannol y clwb a gyflwynwyd gan y trysorydd ar 28ain Chwefror 1974 fod yna falans dros wariant o £199.65 am y cyfnod. O gysidro costau o £364.08 am waith ar y cae, £123.76 am grysau newydd a £74 am hurio bysys i gêmau i ffwrdd roedd yn eithaf bodlon ar bethau. Cyfanswm gwariant y Clwb am y cyfnod 1af Medi 1973 i 28ain Chwefror 1974 oedd £927.83.

Cynhaliwyd Pwyllgor Blynyddol cyntaf Clwb Chwaraeon Pwllheli ar Fawrth 27ain 1974 gydag adroddiad y Cadeirydd Mr Eric D Lewis yn amlinellu’r sefyllfa fan belled.

"Mae dyled y Clwb yn anferth i Mr A J M Jones yn cytuno i lesu’r tir i’r Clwb a hynny ar gostau tu hwnt o resymol. Daeth ansawdd y safle’n amlwg dros y misoedd diwethaf, er yr holl law parhaodd y caeau mewn cyflwr da iawn." meddai Mr Lewis

Soniwyd hefyd am haelioni nifer fawr o ŵyr busnes y dref a fu mor haul gyda rhoddion ariannol a defnydd o gyfleusterau i gynnal cyfarfodydd ac yn y blaen, yn ogystal ag ymroddiad y pwyllgor gweithgar.

Cadarnhaodd yr ysgrifennydd, Mr R J Bovill yn ei adroddiad ef i’r pwyllgor fod cynlluniau wedi’u paratoi ar gyfer adeiladu tŷ clwb. Daeth y tendr gwreiddiol i mewn dros £24,000, ffigwr a oedd yn ormod o faich i’w gynnal. Yn dilyn trafodaethau pellach penderfynwyd symud ymlaen ag adeiladu cragen o ddefnyddiau traddodiadol yn cynnwys ystafelloedd newid ac ystafell Clwb am swm sylweddol is na’r amcangyfrif gwreiddiol. Rhydd y cynlluniau’r posibilrwydd o ymestyn yn y dyfodol pan fydd amgylchiadau’n caniatáu.


Canlyniadau.

 Medi 1af Llangefni Pwllheli  Ionawr 5ed Llangefni Pwllheli 
 Medi 8fed Pwllheli Penrhyndeudraeth  Ionawr 12fed    
 Medi 15fed  Pwllheli RAF Fali   Ionawr 19eg  Ystrad Rhondda Pwllheli 
 Medi 22ain  Dolgellau 6 Pwllheli 0   Ionawr 26ain Pwllheli Caergybi
 Hydref 6ed Pwllheli Ysbyty Gog. Cymru   Chwefror 2ail Penrhyndeudraeth Pwllheli
 Hydref 13eg Caergybi 9 Pwllheli 9    Chwefror 9fed Pwllheli Bae Colwyn 2ail 
 Hydref 27ain Pwllheli 8 Ruthin 2ail 7  Chwefror 16eg   
 Tachwedd 3ydd  Caergybi 22 Pwllheli 18  Chwefror 23ain   
 Tachwedd 10fed    Mawrth 2ail Pwllheli Llangefni 
 Tachwedd 17eg  Pwllheli Llangefni   Mawrth 9fed  
 Tachwedd 24ain Pwllheli Dolgellau   Mawrth 16eg Bangor 2ail Pwllheli
 Rhagfyr 1af Ysbyty Gog. Cymru Pwllheli   Mawrth 23ain Pwllheli Llandudno 
 Rhagfyr 8fed Ruthin 2ail 96 Pwllheli 0   Mawrth 30ain Halkyn 2ail Pwllheli 
 Rhagfyr 15fed      Ebrill 6ed Bae Colwyn 2ail Pwllheli 
 Rhagfyr 22ain    Ebrill 13eg Pwllheli Ystrad Rhondda 
 Rhagfyr 29ain Harlech Pwllheli   Ebrill 20fed RAF Fali Pwllheli 
  Pwllheli 3 Alltudion 3     

Cynlluniwyd gan: Keith Parry Hawlfraint 2006