Search billions of records on Ancestry.com
   
 
  Hafan
  Hafan
 
  Chwaraeon
  Criced
  Hoci
  Peldroed
  Rygbi
 
  Hanes
  Dechreuad
  Blynyddoedd Cynnar
  1961-1970
  1971-1980
  1981-1990
  1991-2000
  2001-ymlaen
  Galeri Lluniau
 
  Gwybodaeth
  Cyswllt
  Cymorth
 

1972-73



Dim cae, dim kit, dim pres a fawr o glem sut i chwarae’r gêm. Disgrifiad gweddol agos i’r marc yn y cyfnod cychwynnol mae'n siwr. Be oedd gan hogia Pwllheli i ganslo'r gwendidau yma oedd llond trol o frwdfrydedd ac un neu ddau o gymeriadau mae dal son amdanynt dros ddeg mlynedd ar hugain yn ddiweddarach.

Tu ôl i bob tîm da mae yna bwyllgor gweithgar a dyna’n union sicrhaodd Pwllheli yn y cychwyn cyntaf.

Llywydd : Yr Athro Emeritus D Seaborne Davies
Cadeirydd : Eric D Lewis
Ysgrifennydd : Len Humphreys
Trysorydd : Elwyn Owen
Capten : Geraint Lloyd Williams
Is-gapten : Dei Francis Edwards
Pwyllgor : Dr E B Williams
Rhys N Jones
Gwyn T Jones
Jonathan Chapman
H Hughes
R Thomas
Paul Alderton

Cysylltwyd â’r Cyngor Tref i geisio sefydlu maes rygbi ar y Rec ond heb lwc, er y cafwyd caniatâd i ymarfer yno yn y cychwyn. Prin iawn oedd gêmau cartref yn y tymor cyntaf, gyda’r llond llaw chwaraewyd yn cymeryd lle ar gaeau Ysgol Glan y Môr.

Llwyddwyd i godi arian yn y flwyddyn gyntaf drwy haelioni’r Is-lywyddion a gweithgareddau megis y Ffair Basg.

Wedi hir ddisgwyl daeth Medi 2ail rownd a gêm gyntaf erioed Clwb Rygbi Pwllheli, i ffwrdd yn erbyn Llangefni. Roedd y diweddar Len Humphreys wedi sicrhau ugain o grysau newydd sbon, hwps coch a gwyrdd, gan gwmni Jack Sharp, Lerpwl ar gost o £2.50 yr un – premiwm o £1.01 y crys dros rhai un lliw – dim ond y gorau i Bwllheli!

 

 

     Dillad newydd yn sychu ar lein Mam Wil Bing.



Dyma’r tîm yn union fel y’i sgwennwyd ar y tîm shît :

15 Campwr1 Jac Do
14 Parry Bach2 John Pent
13 Len Humphreys3 Tudor Bragdy
12 Meic Griffiths4 Wil Bing
11 Paul Alderton5 John Fawr
10 Rhys6 Dei Francis
  9 Orsadd Bach7 Huw Plisman
8 Gerry

Y ddau dîm yn mynd i’r cae mewn double decker yn llawn o gefnogwyr. Llwyddodd Pwllheli ennill y gêm honno a sawl un arall yn ystod eu tymor cyntaf. Syrthiodd yr anrhydedd o sgorio pwyntiau cyntaf Pwllheli mewn gêm swyddogol i neb llai na Mr Tudor Roberts. Fel Tudor Bragdy neu’r Cownt Braganza yr adwaenir ef yn lleol ac mae ei ddewrder a’i sgiliau ar y cae rygbi a’r maes criced yn wybyddus i bawb. Ychydig yn llai canmoliaethus o Tudor oedd papur bro Harlech yn dilyn gêm arall rhwng y ddau dîm.

     Fe gafodd Tudor Bragdy
       Sawl cynnig at y gôl
      Ond methu wnaeth ‘r hen Dudor
     Am fod o dda **** all.

Setlodd Pwllheli wedyn i’w tymor cyntaf o rygbi a’r holl anawsterau ddeuai yn sgîl hynny. Nid pawb oedd yn fodlon chwarae pob gêm i ffwrdd o gartref, a rhwng hyn a’r anafiadau, nid hawdd oedd cael tîm bob tro. Dim ond yr annoeth welid yn cerdded strydoedd Pwllheli rhwng un ar ddeg ac un ar ddydd Sadwrn. Y peth callaf i’w wneud byddai cadw low profile, rhag ofn i Ger neu Len Humphreys eich gweld. Beth bynnag i chi, un pnawn Sadwrn, a George Morton adref o’r môr, fe’i cornelwyd rhywle rhwng y Castle a Whitehall gan Len a gorffen i fyny yn chwarae prop yn Y Rhyl.

Ymysg tîm y flwyddyn gyntaf roedd amryw o enwogion y fro a ddaeth yn enwog dros ardal llawer mwy eang na Phwllheli, Gwynedd na hyd yn oed Cymru – ac nid bob tro am eu gorchestion ar y maes rygbi.

Roedd Papur Bro Dolgellau yn barchus iawn o Jac Do - meddwl am y tro nesaf y byddai’n rhaid ei wynebu ar y cae rygbi mae’n siŵr.

     ‘Roedd gan dîm Pwllheli
        Rhyw anferth No 3
Yn colbio pobl rownd y cae
      A chwerthin Hi Hi Hi.

Roedd y cylchrawn ‘Rugby World’, hyd yn oed, wedi clywed am ‘Orsadd Bach.

     Pwllheli’s Captain Roberts
       Claims that he is fit
But he always smells of beer
     And plays in borrowed kit.

Roedd y balans shît ar ddiwedd y tymor cyntaf yn edrych yn ffafriol gydag incwm o £1044.14 a gwariant o £379.78. Llenwyd y coffrau gan gyfraniadau’r Is-lywyddion o £484.70 ag incwm o’r Ffair Basg o £218.36. . O gysidro fod y rhan fwyaf o’r gêmau wedi’u chwarae i ffwrdd, costau hurio bysus oedd eitem uchaf y gwariant, a hynny'n £153.


Canlyniadau.

 Medi 2ail

Llangefni 9 Pwllheli 16  Ionawr 6ed Llangefni 11 Pwllheli 9 
 Medi 6ed Bangor 2ail 22 Pwllheli 3  Ionawr 20fed   Ystrad Rhondda 24 Pwllheli 0 
 Medi 9fed  Ysbyty G.C. 3 Pwllheli 35   Chwefror 3ydd  Waterloo 3ydd 17 Pwllheli 8 
 Medi 30ain  Coleg Normal 26 Pwllheli 4   Chwefror 10fed  RAF Fali 8 Pwllheli 24 
 Hydref 14eg Coleg Harlech 4 Pwllheli 24   Chwefror 17eg  Pwllheli 16 Dolgellau 17 
 Hydref 21ain  Rhyl Griffin 0 Pwllheli 26   Chwefror 24ain  Pwllheli 9 Llangefni 15 
 Hydref 28ain  Bae Colwyn 2ail 30 Pwllheli 3   Mawrth 3ydd  Pwllheli 71 Bae Colwyn 3ydd 0 
 Tachwedd 4ydd  Pwllheli 0 Llangefni 12   Mawrth 10fed  Pwllheli 23 RAF Fali 8 
 Tachwedd 11eg Aberystwyth 2ail 12 Pwllheli 22   Mawrth 17eg  Ysbyty Gogledd Cymru 
 Tachwedd 18fed  Coleg Harlech 0 Pwllheli 44   Mawrth 24ain  Penrhyndeudraeth 
 Tachwedd 25ain  Dolgellau 8 Pwllheli 0   Ebrill 7fed  Halkyn 
 Rhagfyr 2ail  Phill Judd XV 54 Pwllheli 4     
 Rhagfyr 9fed  Bae Colwyn 3ydd 9 Pwllheli 52     
 Rhagfyr 16eg  Harlech 22 Pwllheli 12     

Dyma oedd gan y capten, Geraint Ll Williams i’w ddweud wrth edrych yn ôl ar y tymor cyntaf.

Mae’n bleser gennyf adrodd ar lwyddiant y tymor llawn cyntaf a’r cam cychwynnol hyn i sefydlu Clwb Rygbi Pwllheli fel un grymus o fewn rygbi Gogledd Cymru. Fel unrhyw fenter newydd cafwyd problemau, y mwyaf o’r rhain oedd gallu sicrhau digon o gêmau a chael timau eraill i’w cyflawni. ‘Roedd perfformiadau ar y cae mor dda fel ein bod yn barod wedi gallu sicrhau rhaglen well ar gyfer y tymor nesaf. Llwyddwyd hefyd i sefydlu cysylltiad gyda Chlybiau Rygbi Ystrad Rhondda a Waterloo a’r bwriad yw trefnu gêm bob tymor yn erbyn y clybiau hyn o hyn ymlaen.

Gwelwyd safon rygbi amrywiol yn ystod y tymor, rhwng chwarae yn erbyn Tîm Dethol o Gaerdydd ar un pegwn a thrydyddion timau o Ogledd Cymru ar y llall.

Cychwynnodd y tîm gyda buddugoliaeth o 15-8 yn erbyn Llangefni a gorffen gyda cholled o 8-18 i ffwrdd i Harlech. Yn y canol chwaraewyd yn erbyn timau cyntaf amryw o glybiau, ac er mai colled ddaeth i’n rhan gwelwyd safon y chwarae’n codi gyda phob gêm.

Cynhaliwyd sesiynau hyfforddi ar y Rec yn ystod yr haf a chafwyd presenoldeb calonogol yn y rhain. Dros fisoedd y gaeaf cafwyd caniatâd Prifathro Ysgol Botwnnog, Mr E Jones i ddefnyddio’r cyfleusterau yno bob nos Iau a chafwyd cymorth amhrisiadwy Mr Bob Richards, yr athro Ymarfer Corff yno. Mae nifer y chwaraewyr ar gael bob wythnos wedi codi’n raddol drwy’r tymor fel ei bod yn bosibl trefnu gêmau ail dîm ar gyfer y tymor nesaf.

Cynlluniwyd gan: Keith Parry Hawlfraint 2006


"