Search billions of records on Ancestry.com
   
 
  Hafan
  Hafan
 
  Chwaraeon
  Criced
  Hoci
  Peldroed
  Rygbi
 
  Hanes
  Dechreuad
  Blynyddoedd Cynnar
  1900-1910
  1911-1920
  1921-1930
  1931-1940
  1941-1950
  1951-1960
  1961-1970
  1971-1980
  1981-1990
  1991-2000
  2001-ymlaen
 
  Gwybodaeth
  Cyswllt
  Gwybodaeth
 

      

     Newyddion



PWLLHELI AR DRYWYDD CHWARAEWR O WLAD TRAMOR.

Gyda thymor llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf y tu ôl i ni a’r ddau dîm wedi ennill dyrchafiad i Adran uwch o Gynghrair Gogledd Cymru, mae pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar i dynnu’r ‘creams’ allan o’r cwpwrdd tanc eto.

Datblygiad cyffrous ofnadwy mae pawb yn y clwb yn siarad amdano yw’r penderfyniad i wahodd chwaraewr tramor i’r Clwb am y tro cyntaf erioed. Nid ar chwarae bach mae clwb o faint Pwllheli yn cymryd naid mor fawr â hyn, ac mae’n eithaf posib mai Pwllheli fydd yr unig dîm yn Adran 2 fydd gan chwaraewr o dramor yn y tîm. Heblaw am y gost ariannol a’r drafferth posib o gael mynediad i’r wlad mae’r Gynghrair yn setio amodau eithaf caeth cyn rhoi caniatâd i unrhyw un o wlad dramor gael chwarae. Mae’n rhaid i’r person feddu ar gymhwyster hyfforddi addas a bod ar gael i hyfforddi yn ysgolion lleol yn ystod y tymor yn ogystal. Maent hefyd yn ceisio sicrhau bod safon y chwaraewr yn addas ar gyfer lefel y criced yn y clwb o dan sylw.

Pasiwyd yn y cyfarfod blynyddol ym Mis Hydref i edrych i mewn i’r sefyllfa a bu Neil Williams capten y tîm cyntaf yn brysur iawn ers hynny, ac mae'r gwaith caled wedi dwyn ffrwyth.

Mae Nadeem Rehmann, troellwr a batiwr ifanc 21 oed, wedi cyrraedd ers pythefnos ac wedi setlo i mewn yn barod, er ei fod yn gweld y tywydd yn ofnadwy o oer. Mae’n hanu o Udaipur, Gogledd Orllewin India ble mae’r tymheredd yr adeg yma o’r flwyddyn yn nes at 40C na’r 10C a gawn ym Mhen Llŷn. Nadeem oedd bowliwr gorau yn ddiweddar mewn twrnamaint rhyng-golegol yn yr India, ble mae’n fyfyriwr blwyddyn olaf, yn stydio Hanes India a Gwyddoniaeth Gwleidyddol. Mae wedi gohirio cymryd ei arholiadau terfynol er mwyn chwarae i Bwllheli eleni. Gobeithiwn yn fawr ei weld yn cynhesu i’r dasg fel y gwellir y tywydd.

Rhagwelir safon chwarae tipyn uwch yn ystod 2006, a’r gobaith yw y gall y chwaraewyr ifanc barhau i ddatblygu a dal i chwarae’r criced cyffrous sydd wedi bod llwyddiant yn barod. Pob lwc i’r ddau gapten, Neil Williams i’r tîm cyntaf a Terry O’Neill, yr ail, am y tymor i ddod.

Pam na ddowch chi draw i Barc Bodegroes i gefnogi’r tîmau, i weld safon dda o griced ac i weld y ‘doosra’ yn cael ei bowlio? Mae yna gêm gartref bron iawn bob Sadwrn drwy’r haf.


Cynlluniwyd gan: Keith Parry Hawlfraint 2006