Man cychwyn y gêm oedd China, Groeg a Rhufain fwy na dwy fil o flynyddoedd yn ôl, gyda gwahanol fersiynau yn cael ei
chwarae, ond daw’r gêm fodern allan o gymysgedd rhwng pêl-droed a rygbi; gem a chwaraeid gan y werin bobol yn yr ail
ganrif ar bymtheg ac ymlaen. Fe’i gwelid yn gêm farbaraidd a pherygl, ac fe’i heriwyd gan y sefydliad a’r Eglwys.
Yn union fel yn achos criced ceisiwyd ei gwahardd. Roedd yn adloniant oedd yn pellhau person oddi wrth ei feistr a’i
Dduw. I’r tirfeddiannwr cefnog fe’i gwelid yn wastraff o amser; amser fedrai gael ei ddefnyddio lawer mwy cynhyrchiol
yn saethu neu yn filwr. Methiant fu pob ymdrech i’w ffrwyno fodd bynnag.
Petaech yn cael eich cludo’n ôl mewn amser i’r 1860au buasai’n anodd iawn gweld gwahaniaeth rhwng y gêm bêl-droed a
rygbi neu bêl-droed Americanaidd. Bryd hynny cai chwaraewr redeg gyda’r bêl hyd nes iddo gael ei faglu neu’i daclo.
Cyn gynted ag y byddai’r bel yn cyffwrdd y ddaear byddai sgrym yn ffurfio gyda’r naill ochr a’r llall yn ceisio symud
y bêl ymlaen.
Ysgolion bonedd oedd yn gyfrifol am ddyfeisio’r rheolau cyntaf, gyda phob ysgol yn chwarae o dan eu cod eu hunain.
Caergrawnt oedd yn gyfrifol am gyhoeddi’r set o reolau cyntaf yn 1848. Ni chaniateir i chwaraewr gyffwrdd pêl oedd
wedi’i phasio o gyfeiriad ei gôl ei hun oni bai fod yna dri o’r gwrthwynebwyr rhyngddo a’r gôl. Roedd hawl gwthio’r bel
gyda’r dwylo a’i dal cyn belled nad oedd wedi trawo’r llawr, ond dim rhedeg tra’n gafael yn y bêl. Cortyn oedd yn cael
ei ddefnyddio rhwng y postia nid trawst.
Sheffield oedd y ‘clwb’ cyntaf i gael ei ffurfio yn 1857 a chwaraeent o dan eu rheolau eu hunain, a oedd yn eithaf tebyg
i rai Caergrawnt Caniateid gwthio’r bêl efo’r dwylo, a’i dal cyn belled nad oedd wedi cyffwrdd y ddaear. Roedd dal y bêl
yn gyfreithlon yn rhoi hawl i’r chwaraewr i gic rydd. Roedd hawl hyrddio tuag at y bêl cyn gynted ag y byddai’r gwrthwynebydd
yn siapio i’w chicio. Un rheol eithaf doniol oedd bod rhaid i chwaraewyr y ddau dîm wisgo cap flannel o wahanol liw.
Y nesaf i ddod allan gyda rheolau oedd Ysgol Uppingham yn 1862. Eto fe welir newidiadau i’r rheolau gwreiddiol. Roedd
chwaraewr ‘allan o’r gêm’ cyn gynted ag y pasiwyd ef gan y bêl, tan iddi gael ei chyffwrdd gan un o’r tîm arall, neu gan
aelod o’i dim ei hun oedd wedi dilyn y bêl o’r cefn.
Ffurfiwyd y Gymdeithas bêl-droed yn 1863 a gwelwyd set arall o reolau. Yn ddiddorol nid oes sôn am gortyn na thrawst yn
y fersiwn yma a chaniateir gôl rhwng y postia ar ba bynnag uchder. Pan oedd y bêl yn cael ei chicio dros yr ystlys y tîm
cyntaf i gyrraedd y bêl oedd yn cael ail ddechrau’r gêm drachefn. Pan oedd chwaraewr yn dal y bêl yn lân ac yn gwneud marc,
roedd hawl iddo gic cosb, ond fod rhaid i’w gyd-chwaraewyr fod i gyd y tu ôl i’r bêl wrth gymryd y gic. Gwaharddwyd gwisgo
sgidiau gyda hoelion neu blatiau arnynt.
Nid oedd cyfyngiad ar y nifer o chwaraewyr mewn tîm na chwaith ar hyd y gêm. Gan mai gêm i’w mwynhau oedd hi nid oedd pethau
felly’n bwysig, a gadewir i’r capteiniaid ddod i gytundeb ar fanylion cyn y gêm.
Yn y cychwyn doedd dim angen rheolwr, roedd i fyny i’r ddau gapten setlo unrhyw anghydfod, ond gyda dyfodiad Cwpan y
Gymdeithas Beldroed a gemau cystadleuol yn 1872 gwelwyd yr angen i benodi dyfarnwr â gofal o’r gêm, a dau gynorthwywr
i’w helpu. Rhanwyd y cae yn ddau gyda’r naill gynorthwywr a’r llall yn gyfrifol am ei hanner ei hun o’r cae. Parhawyd
gyda’r arferiad hyd at 1891. Newidiodd dyletswyddau’r cynorthwywr bryd hynny i fod yn debyg i’r llumanwr modern.
Ni ddaeth cic gornel i fod tan 1873. Cyn hynny'r tîm yn amddiffyn y gôl oedd ar hawl i ail ddechrau’r gêm ta pwy bynnag
a giciodd y bêl allan.
Roedd yna reol camsefyll o fath yn bodoli yn fersiwn Caergrawnt, Uppingham a Sheffield o’r rheolau. Roedd Sheffield yn
caniatáu'r hyn a elwir yn ‘kick through’ ble mae chwaraewyr i’w gweld yn sefyll yn agos i gol y gwrthwynebwyr yn disgwyl
y bêl. Roedd Uppingham yn erbyn pasio ymlaen o gwbwl, a’r unig ffordd i symud ymlaen oedd driblo. Roedd Caergrawnt ar y
llaw arall yn fodlon pasio ymlaen cyn belled a bod tri gwrthwynebwr rhwng y chwaraewr a’r gôl.
Gan nad oedd lawer o chwarae rhwng gwahanol ardaloedd ar hyd a lled y wlad nid oedd lawer o wahaniaeth am y gwahaniaethau
yma, gan mai pur anaml fyddai tîm o Lundain er enghraifft yn chwarae rhywun o’r Gogledd.
Roedd yn rhaid aros tan y 1870au cyn i reolau Sheffield wneud i ffwrdd a’r ‘kick throughs’ a chaniatau pasio ymlaen cyn belled
a bod yna un gwrthwynebwr rhwng y chwaraewr a’r gôl. Mabwysiadu’r rheol tri chwaraewr wnaeth y Gymdeithas Beldroed a gwelwyd
Sheffield yn newid i hyn yn fuan hefyd. Parhawyd gyda’r trefniant yma hyd nes 1925 pan newidiwyd i reol ‘dau chwaraewr.’
Er i’r rheolau gwahanol yma symud i ffwrdd oddi wrth y gêm gorfforol daeth y gêm rygbi yn ofnadwy o boblogaidd yn Llundain
a’r cyffiniau erbyn diwedd yr1860au ac roedd yna lawer mwy yn chwarae rygbi na phêl-droed yn y rhan honno o’r wlad.
Ar hyd y 70au fodd bynnag gwelwyd poblogrwydd y bêl gron yn cynyddu a gyda hyn yr angen am gaeau safonol i chwarae’r gêm.
Gwnaed hyn lawer iawn ar barciau cyhoeddus ac ar diroedd drosglwyddwyd ar gyfer y pwrpas, ond gêm i’w chwarae ac nid i’w gwylio
oedd hi. Doedd y gêm bryd hynny ddim yn ‘spectator sport’ ac ychydig o groeso na chyfleusterau oedd yna ar gyfer y gwyliwr.
Ond roedd yna rywbeth am y gêm oedd yn denu pobol i’w gwylio ac yn fuan dechreuwyd codi tâl i wylio.
Derbyniwyd yr arferiad o benio’r bêl a gyflwynwyd o’r Gogledd yn 1875 gyda pheth ddigrifwch, ond pan welwyd pa mor effeithiol
yr oedd fe’i derbyniwyd. Gwelwyd y sgil o groesi’r bêl o’r esgyll yn datblygu allan o hyn ac hefyd plygu’r bêl o gwmpas
gwrthwynebydd.