Cychwynodd cyfnod newydd yn yr ardal ar ddiwedd 1879 pan ffurfiwyd clwb pêl droed ym Mhwllheli am y tro cyntaf.
Mr W G Davies, Prifathro Ysgol Penlleiniau roddodd ysgogiad i’r datblygiad ac ef oedd capten cyntaf tîm y dre.
Roedd y bechgyn wedi bod yn ymarfer yn galed am dair wythnos cyn y gêm gyntaf, gartref yn erbyn Porthmadog ar y 9fed
o Dachwedd. Pwllheli enillodd y tos a dewis cicio i lawr a gyda’r gwynt. Cafwyd gem gyffrous a chyfartal gyda Phwllheli
yn pwyso gryn dipyn ar gôl y gwrthwynebwyr yn ystod diwedd yr hanner cyntaf. Dechreuodd y tîm cartref flino yn yr ail
hanner a sgoriodd Port un gôl a waharddwyd cyn sgorio’r unig gol efo chwarter awr i fynd. Roedd adroddiad clwb Porthmadog
yn y wasg yr wythnos ganlynol yn feirniadol iawn o chwarae garw a chaled Pwllheli ac yn gobeithio am ornest lanach
y tro nesaf.
Mae’n werth nodi enwau chwaraewyr tîm Pwllheli yn y gêm gyntaf hon :
Pwllheli : William Jones; T S Morgans, O Humphreys; J R Toleman, Robert Williams, T Owen; Milton Clarke,
W G Davies(capten),
R W Humphreys.
Thomas Owen oedd capten y tîm ym mis Chwefror 1881 pan welir gêm arall yn erbyn Porthmadog. Colli bu hanes y tîm y tro hwn
hefyd, y tro yma cweir go iawn o ‘five goals and three disputed to nil.’ Yn ôl yr arferiad y dyddiau hynny rheolir y gêm
gan reolwr a dau ddyfarnwr, un o bob ochr. Mewn achosion o anghydfod roedd rhaid cael cytundeb dau allan o’r tri swyddog.
Dyna ble mae’r gair ‘disputed’ yn deillio yn sgôr Porthmadog mae’n debyg.
Erbyn 1883 gwelir clwb newydd yn cael ei ffurfio o dan yr enw Heli Rangers, gyda beth sy’n edrych yn swyddogion gwahanol
i’r gwreiddiol. Capten y tîm oedd Samuel Owen, clerc yn Swyddfa’r Post, gyda W E Jones yn ddirprwy iddo. C J Williams,
Pwlldefaid oedd yr ysgrifennydd ac W T Williams Shop Eryr oedd â gofal o’r cyllid.
Fe welwch fel mae’r stori’n datblygu fod timau newydd, neu, hen dimau'n atgyfodi o dan enw gwahanol yn digwydd o gwmpas
y lle ym mhobman, ac yn enwedig felly ym Mhwllheli. Mae’n siŵr fod yna ddeg tîm gwahanol wedi cychwyn yn y blynyddoedd
cynnar yma yn y dre.
Mae D G Lloyd Hughes yn ei lyfr ar hanes tref Pwllheli yn dweud fel hyn :
“Am rai blynyddoedd bu sawl clwb ym Mhwllheli a bu rhyw fath o gythraul canu
ar waith rhyngddynt yn eu rhwystro rhag cytuno ar y chwaraewyr gorau i
gynrychioli’r dref ar achlysuron arbennig.”
Crwydriaid Nevin oedd gwrthwynebwyr cyntaf y Rangers, bythefnos cyn Nadolig 1883. Ennillodd Nevin y tos a dewis chwarae
i fyny’r cae. Ar ôl dechreuad gwastad sgoriodd George Pughe Jones i Bwllheli ar ôl rhediad rhagorol hyd y cae. Dyna’r
unig sgôr yn yr hanner cyntaf. Sgoriodd Pwllheli ddau gol arall yn yr ail hanner drwy H G Jones a William Ellis Jones,
gyda Hughes yn sgorio un i’r tîm cartref.
Heli Rangers : Robert Roberts(gol); Owen Jones, Samuel Owen(capten); Ellis Jones, William Evans; George P Jones,
William Ellis Jones, R B Jones, H G Jones, W M Jones, T Griffith.
Erbyn mis Hydref y flwyddyn ganlynol roedd yna dim arall wedi’i ffurfio o dan yr enw Blue Stars a’u gwrthwynebwyr cyntaf
oedd tîm yr Heli. Rwan mae hi’n dechrau mynd yn gymhleth. Cyn diwedd mis Hydref fe welir adroddiad yn y Carnarvon and
Denbigh Herald yn cadarnhau dyfodiad tîm arall sef Pwllheli Town. Mr G H Williams oedd y capten a Mr Williams Evans
yr is-gapten. Y swyddogion eraill oedd Mr Williams, M Jones a Mr H Gladstone Jones. Mae’n anodd dweud yn iawn os mai’r
un tîm oedd y ‘Blue Stars’ a’r ‘Town’ ond mae’n amlwg o stydio pethau fod rhai o chwaraewyr yr ‘Heli Rangers’ wedi
croesi trosodd.
Yn ôl trefn y cyfnod cynhelid cyngherddau mawreddog yn Neuadd y Dref dros fisoedd y gaeaf i godi arian at wahanol achosion.
Fe elwodd y clwb criced droeon o weithgareddau fel hyn. Tro‘r tîm pêl droed oedd hi ar y 6ed o Dachwedd 1884 i gymeryd
mantais o haelioni pobol gefnog y dref. Roedd noson lawn ac amrywiol wedi’i threfnu gan aelodau’r pwyllgor. Llew Madog
a’i ferch Miss Maggie Morgan, Porthmadog oedd sêr y noson ynghyd a llu o artistiaid lleol. Roedd y sgit “Twas you, sir”
gan aelodau o’r tîm mewn cit pêl droed yn boblogaidd tu hwnt.
Roedd Mr R Carreg, un o’r gwesteion wedi’i blesio’n fawr ac y uchel iawn ei glod. Wrth ddiolch i’r cadeirydd, trefnwyr
a’r cyfranwyr oll dywedodd iddo fod mewn llawer cyngerdd ym Mhwllheli dros gyfnod o 25 mlynedd ond fod hwn yn rhagori
arnynt i gyd.Llwyddwyd i wneud elw o £10 ar y noson ar ôl talu’r treuliau a chafwyd cefnogaeth ariannol o 10s yr un gan Mr Winslow,
Mr Lloyd Evans a Mr R O Jones.
Gyrru i Benygroes wnaeth tîm y Dref ar yr 22ain o Dachwedd i chwarae’r Crwydriaid. Roedd y tîm cartref yn un cryf,
a gyda Phwllheli yn brin o bedwar o’u chwaraewyr gorau roedd brwydr galed o’u blaenau. Pwllheli oedd yn fuddugol
yn y diwedd o ddwy gôl i un. Chwaraewyd y ‘return’ bythefnos yn ddiweddarach, ond y tro hwn roedd tîm llawn
gan Bwllheli. Roedd hon yn gêm hollol wahanol, gyda’r tîm cartref yn pwyso’n ddidrugaredd drwy gydol y gêm.
Sgoriodd Pwllheli dair gôl a dwy ‘disputed’ i ddim.
Chwaraewyd gemau ar Ddiwrnod Nadolig a chystadlaethau yng Nghaernarfon ar Wyl San Steffan yr adeg hynny. Teithiodd tîm
o Fangor i Bwllheli ar y 25ain a chael eu curo o ddau gol i un. Fyddai na fawr o son am y gêm oni bai i rai o Fangor glywed
rhywun o Bwllheli yn ymffrostio yn eu buddugoliaeth yng Nghaernarfon y diwrnod canlynol, ac yn rhagweld canlyniad tebyg
yno hefyd.
Colli yn y drydedd rownd i Arwyr Carnarfon o bedair gôl i ddim wnaeth y tîm yn y gystadleuaeth o flaen torf o ddwy fil o bobol.
Rhaid cofio bod buddugoliaeth Pwllheli yn erbyn Bangor yn hollol annisgwyl o gysidro statws y ddau glwb ac roedd balchder
tîm Bangor wedi’i siglo yn y golled, yn enwedig o glywed y brolio yng Nghaernarfon drannoeth. Yn rhifyn 3ydd o Ionawr 1885
o’r North Wales Chronicle, mae’r gohebydd yn awgrymu mai trydydd tim Bangor oedd ar y cae y diwrnod hwnnw a bod dim sail
i’r brolio.
Ymddangosodd ymateb Pwllheli yn y rhifyn nesaf. Roedd y tim wedi cael eu hyrddio’n gorfforol ac wedi'u gwawdio gan iaith
anweddus gydol y gêm. Heblaw am ymddygiad anffodus eu gwrthwynebwyr, enwir saith o’r chwaraewyr tîm Bangor y diwrnod hwnnw
nad oedd yn aelodau o unrhyw ‘drydydd tim.’
Ar ddiwedd 1884 fe welir cofnod o dîm newydd eto drachefn, o dan yr enw - Pwllheli Heroes. Roedd yna o gwmpas deg
ar hugain o hogiau ‘ar y llyfrau.’ Thomas Owen oedd y capten. Roedd o yn un o aelodau cyntaf y tîm yn 1879, ac
yn gapten yn 1881. Mr Robert Batterbee oedd yr is-gapten, gyda Hugh Ellis yn drysorydd a Morris Jones, Penlon
Lleyn yn drysorydd. Roeddynt yn ffodus o gael benthyg maes i ymarfer arno gan Mr Owen Owen. Colli gwnaethant i
ffwrdd i dîm Madoc o bum gol i ddim a churo Nevin o ddau gol i un ar gae ar fenthyg oddi wrth dîm Tref Pwllheli.
Roedd cynulleidfa niferus yn bresennol mewn cyngerdd i godi arian i'r clwb pêl droed ym mis Hydref. Miss Marian
Williams oedd y gantores wadd, ond yn anffodus method a chanu mwy na dwy gân oherwydd anhwylder, ond mae son am lwyddiant
y Football Glee Party yn adroddiad y papur newydd. Yn ei anerchiad ar y diwedd mae Mr G P Jones yn cadarnhau manylion
y tymor cynt, pryd yr enillwyd 15 o’r 17 gêm chwaraewyd, gan sgorio 48 gol a gollwng i mewn dim ond 7.
Daeth cadarnhad ar ddechrau tymor 1885 fod Pwllheli wedi’u paru gartref yn erbyn Llandudno yn rownd gyntaf cwpan y
‘Northern Welsh Challenge.’ Dyma fyddai’r gêm gwpan gyntaf i dîm o’r dre. Cafodd y tîm gyfle i chwarae a churo Coltiaid
Carnarvon o ddwy gol i ddim cyn y gêm gwpan. Yn ôl adroddiad yn y North Wales Chronicle roedd yna gannoedd yn gwylio’r gêm,
ond colli o bedair gôl i ddim oedd tynged y tîm.
Yn dilyn y golled hon roedd yna stori ar hyd a lled y dref fod gan y tîm ofn chwarae yn erbyn yr Heroes. Mae’n debyg fod
yna gryn straen yn y berthynas rhwng y ddau dîm, ac roedd pethau wedi poethi dipyn erbyn dechrau Rhagfyr pan gyfarfu’r
ddau dîm. Siom gafodd yr Heroes mewn gêm unochrog a cholli o dair gôl i ddim.
Town : Smith, O Jones, Thomas; Barker, Baxter, Roberts; G P Jones(capt), Evans, Ellis, W Ellis Jones, W M Jones.
Heroes : W Australian; R Jones, W Williams; R Evans, Ashton, Beach; Bell, Griffiths, Hughes, Ellis, Humphreys.
Roedd y gystadleuaeth rhwng Pwllheli a Bottwnog yn un brwd iawn bob amser ac roedd y pwysigrwydd o gael ffeithiau’n
gywir mewn adroddiadau’r wasg yn amlwg ar ôl gêm rhwng ail dim y ddau yn Nhachwedd 1889. Gohebydd Pwllheli sgwennodd
yr adroddiad cyntaf mae’n debyg, ond roedd capten Bottwnog yn anfodlon a dau bwynt pwysig. Yn gyntaf roedd gan Bwllheli
ddau chwaraewr o’r tim cyntaf, ac yn ail roedd y canlyniad yn anghywir, dim dau gol i ddim oedd hi ond “two goals and
one disputed, against one goal.”
Daeth yr ymateb yn ôl gan gapten Pwllheli'r wythnos ganlynol yn cytuno fod dau chwaraewr tim cyntaf wedi chwarae, ond,
eu bod wedi chwarae’r gêm efo deg dyn. Wrth anghytuno fod y sgôr anghywir wedi’i adrodd tynnwyd sylw at ddiffyg y
dyfarnwr(Bottwnog) a oedd “yn gwybod ond ychydig am y gêm.”
Yr unig gêm i’r tîm cyntaf chwarae cyn Nadolig 1889 oedd gartref yn erbyn "tim cwpan" Porthmadog, ac roedd cryn ddisgwyliadau
am gêm gyffrous ymysg y dorf niferus. Gorffennodd yr hanner cyntaf yn ddi-sgor a bu i un o amddiffynwyr Pwllheli fod ddigon
anlwcus i sgorio trwy ei gol ei hun yn yr ail hanner; a dyna oedd yr unig sgôr yn y gêm.
Aeth tîm Celtiaid Pwllheli i’r rownd derfynol o’r gystadleuaeth yng Nghaernarfon ar Wyl San Steffan cyn colli o gol i ddim
yn erbyn Bangor a dod adref efo set o fedalau arian.
Ychydig iawn o fanylion am gemau yn cynnwys Pwllheli sydd ar gael am y degawd hyd at 1900, yn wir does fawr ddim o sôn am
y gêm yn lleol am rai tymhorau cyfan yn ystod y cyfnod yma. Gyda dyfodiad y ganrif newydd fodd bynnag gwelir
poblogrwydd y gêm yn codi a gyda hyn sylwebaeth yn y wasg yn cynyddu yn fawr. Mae'n deg dweud fod adroddiadau mewn papurau
wythnosol megis y Chronicle a'r Carnarvon and Denbigh am gyfnod o hanner canrif o ddechrau'r ganrif, yn gynhwysfawr a
difyrrus tu hwnt, ac yn rhagori yn ei fanylder ar unrhyw beth sydd i'w gael heddiw. Y trueni yw nad oes copiau o'r Cambrian
News i'w gael yn lleol i ychwanegu at y cyfoeth newyddiadurol.
Mae hanes Pwllheli yn ymuno a chynghrair am y tro cyntaf a'r cynnwrf a welwyd yn sgil y diwygiad crefyddol i’w weld yn
rhan nesaf o’r stori.