Search billions of records on Ancestry.com
   
 
  Hafan
  Hafan
 
  Chwaraeon
  Criced
  Hoci
  Peldroed
  Rygbi
 
  Hanes
  1920-21
  1921-22
  1922-23
  1923-24
  1924-25
  1925-26
  1926-27
  1927-28
  1928-29
  1929-30
 
  Gwybodaeth
  Cyswllt
  Cymorth
 

1928 - 1929


Ar ôl gorffen ar waelod Adran II o’r gynghrair yn y tymor blaenorol roedd yna ddigon i’w drafod yn y cyfarfod blynyddol gynhaliwyd ar nos Fawrth 19eg o Fehefin. Y Parchedig Idris Roberts BA oedd llywydd y noson yn absenoldeb anochel y cadeirydd, Mr D L Jones, Banc Barclays.

Roedd Pwllheli fel rhan helaeth o glybiau’r ardal yn cael trafferth i gadw dan ben llinyn ynghyd a chadarnhaodd y trysorydd nad oedd y gefnogaeth bresennol, yn anffodus yn ddigonol i ganiatáu rhedeg dau dîm. Roedd y mwyafrif yn bresennol o blaid tynnu allan o’r Ail Adran a chanolbwyntio ar Adran IV o Gynghrair Gwyrfai am y tymor newydd a phenderfynwyd ar ôl pleidlais i wneud hynny.

Penodwyd y Swyddogion canlynol am y tymor :
Llywyddion : Mr F C Minoprio, Abersoch a Lerpŵl. F E Andrews a Dr Shelton Jones.
Cadeirydd : Mr Richard Jones, Riverside.
Trysorydd : Mr D L Jones, Banc Barclays.

Gohiriwyd penodi ysgrifennydd tan y pwyllgor nesaf. Gwelwyd bwlch mawr yn dilyn ymadawiad Mr John Williams a byddai’n rhaid chwilio tipyn i gael person môr weithgar ag abl i gymryd trosodd yn awenau. Penodwyd Mr W J Evans, yr ysgrifennydd bedair blynedd ynghynt ychydig ddyddiau cyn dechrau’r tymor.

Roedd Cymdeithas Peldroed Cymru yn awyddus i ail sefydlu Cynghrair Arfordir y Cambrian fel modd i feithrin pêl droed amatur ar draws trefi’r arfordir. Roedd ganddynt ddeg o glybiau dan sylw, Bala, Dolgellau, Bermo, Towyn, Aberdyfi, Machynlleth, Harlech, Porthmadog, Criccieth a Phwllheli. Dim ond tri o’r clybiau yma oedd yn chwarae mewn cynghrair ar y pryd. Roedd cyfrifon y Gynghrair yn ôl bob sôn yn iach, â chwpan a tharian ar gael i frwydro amdanynt. Fel mae’n digwydd ddaeth dim o hyn, er cymaint dyheadau’r Gymdeithas.

Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Adran IV ar y 30ain o Awst ym Mhenygroes, o dan lywyddiaeth Mr R T Roberts. Digon bregus oedd y cyfrifon yn y fan yma hefyd. Gwelwyd elw o ychydig mwy na £3 a’r wariant o £36, ond fod £5 o incwm yn deillio o’r tymor blaenorol.

Cadarnhawyd fod yna amryw o glybiau wedi dangos diddordeb mewn ymuno a’r Gynghrair a phenderfynwyd y dylai’r ysgrifennydd gysylltu â’r rhain cyn y cyfarfod nesaf. Roedd ail dîm Porthmadog yn wynebu trafferthion ariannol ac er gwaethaf i garnifal a diwrnod o chwaraeon yn ystod yr haf alluogi iddynt glirio’r ddyled yn y Banc, ychydig o frwdfrydedd oedd i’w weld i barhau yn yr Adran. Yn y diwedd penderfynu peidio chwarae wnaeth Porthmadog a hefyd Cesarea Rovers ar ôl blwyddyn môr llwyddiannus. Clwb arall oedd yn wynebu trafferthion oedd Penrhyndeudraeth. Methodd y clwb yma a chyflawni rhai o’u gemau ar ddiwedd tymor 1927-28 a doedd dim syndod eu gweld hwythau yn diflannu chwaith. Roedd Penygroes wedi rhoi eu bryd ar gael ymuno ond yn anffodus methwyd a sicrhau cae addas. Ni chlywyd mwy o sôn am Lanrug, Llanberis na Rhostryfan ar ôl iddynt ddangos diddordeb mawr, ond fe ddaeth tri chlwb newydd i mewn i lenwi’r bwlch, Porthmadog RWF, Celtiaid Talysarn a Tanygrisiau.

Cyn dechrau’r tymor go iawn gwelwyd digwyddiad digon diddorol ar Enlli, yr ynys gyfanheddol leiaf ym Mhrydain. Roedd corn niwl newydd yn cael ei osod yno ar y pryd a chwaraewyd gêm bel droed am y tro cyntaf erioed rhwng y peirianwyr a llongwyr y stemar ‘Beacon’ a’r smac ‘Kathleen’ oedd yn cario nwyddau i gyflawni’r gwaith. Y morwyr enillodd y gêm o ddwy gôl i un. Roedd y diweddar Love Pritchard, "Brenin"  Enlli yn llwyr yn erbyn y gêm pan y’i gwelodd hi’n cael ei chwarae ym Mhwllheli unwaith. Pryn a’i chytuno ag ef yntau yn rhy brysur yn cynaeafu oeddynt, ond welwyd neb o’r preswylwyr yn gwylio'r diwrnod hwnnw.

Derbyniwyd Criccieth, Porthmadog, Talysarn a Phwllheli i Gwpan Iau Gogledd Cymru, a byddent yn chwarae yn erbyn ei gilydd er mwyn canfod y tîm gorau i fynd ymlaen i rowndiau terfynol y Gwpan. Curodd Pwllheli yn y Rownd Gyntaf i ffwrdd i Dalysarn o ddwy gôl i un. Curo Criccieth wedyn o chwe gôl i ddim, cyn colli i Borthaethwy i ffwrdd o dair gôl i un.

Byddai gweinyddwyr y Gynghrair yn eithaf llym a throseddwyr. Fe’i cadwyd yn eithaf prysur yn ystod y tymor gyda thimau yn cynnwys chwaraewyr anghymwys, troi i fyny i gêmau yn hwyr neu yn canslo ar fyr rybudd. Roedd yn eithaf cyffredin i weld timau yn cael eu cosbi’n ariannol am y gweithredoedd hyn. Ychydig iawn o drugaredd ddangosodd Pwyllgor Gweithredol Adran II ar ôl i Flaenau Festiniog ganslo gêm ym Mangor yn ystod y tymor. Yr oedd amryw o dîm y Blaenau yn dioddef gyda’r ‘fliw. Fe’i dirwywyd £2 2s a’u gorchymun i ddi-golledu Bangor am gostau hysbysebu’r gêm. Byddai tîm Carnarvon yn talu’r pris eithaf, ond mwy am hynny yn nes ymlaen.

Syfrdanwyd y dref ddechrau Rhagfyr gyda marwolaeth gwr ifanc mewn damwain. Bu farw Thomas Griffith, Rhydliniog, 23 oed, ceidwad y gôl i’r tîm pêl droed pan ddisgynnodd oddi ar ystôl tra’n cynorthwyo’r Frigad Dân.

Achoswyd difrod gwerth £4000 i Gaffi a Siop Bodawen, Y Maes pan dorrodd tân allan yn ystod oriau mân bore Gwener. Yr unig un yn yr adeilad ar y pryd oedd y perchennog Mr O T Denman, a bu’n ffodus i ddianc drwy ffenestr gefn yr adeilad. Trwy lwc ychydig iawn o awel oedd yna'r noson honno, neu mi fyddai eiddo cyfagos yn saff o fod wedi cael eu difrodi yn ogystal. Roedd Griffith yn un o ystafelloedd llofft yr adeilad gyda Robert Jones, peiriannydd, pan syrthiodd oddi ar ystôl. Bu farw ychydig oriau ar ôl y digwyddiad.

Bu’n rhaid i rieni Thomas Griffith ddwyn achos yn erbyn y Cyngor i hawlio iawndal. Yn ystod yr achos daeth y ffeithiau allan ynglŷn â’r digwyddiad. Eglurwyd mai gwirfoddolwr oedd Griffith ac na chafodd mo’i alw allan y noson honno. Cyrhaeddodd ychydig amser ar ôl i’r tân gael ei ddiffodd ac aeth i’r llawr uchaf i hysbysu’r capten o’i bresenoldeb, ond ar y ffordd lawr fe slipiodd a disgyn oddi ar ystôl i’r llawr. Bu farw ychydig oriau yn ddiweddarach.

Derbyniodd y Cyngor gyfrifoldeb a daethpwyd i gytundeb ar daliad iawndal o £125.


Cynlluniwyd gan: Keith Parry Hawlfraint 2006