Search billions of records on Ancestry.com
   
 
  Hafan
  Hafan
 
  Chwaraeon
  Criced
  Hoci
  Peldroed
  Rygbi
 
  Hanes
  1920-21
  1921-22
  1922-23
  1923-24
  1924-25
  1925-26
  1926-27
  1927-28
  1928-29
  1929-30
 
  Gwybodaeth
  Cyswllt
  Cymorth
 

 

1920 - 1921



Cynhaliwyd cyfarfod o bwyllgor gweithredol y gynghrair yn y Bermo o dan lywyddiaeth Mr T J Williams, Pwllheli yng nghanol mis Awst. Cadarnhawyd bwriad y timau canlynol i ymuno am dymor 1920-21 :Bala, Bermo, Criccieth, Dolgelley, Harlech, Pwllheli a Thywyn.

Cadarnhawyd hefyd y swyddogion ar gyfer y tymor.

Llywydd :Mr Harrison, Rheolwr Y Cambrian News, Aberystwyth.
Is-lywyddion : Uwch-gapten Passingham, Bala; Uwch-gapten Breen Turner,Pwllheli;
Capten Wynne Jones, Dolgelley; Dr Davies, Towyn; Dr Livingstone Davies,
Criccieth; Mr D Llew Hughes, Porthmadog; Mr Du Pledge, Bala; Mr Read,
Golygydd Y Cambrian News, Aberystwyth; Mr George Evans, Y Bermo;
Mr George Davison, Harlech.
Cadeirydd : Mr T J Williams, Pwllheli
Is-gadeirydd : Y Parch H Williams, Curad, Y Bermo
Trysorydd : Mr J A Stokes, Harlech
Ysgrifennydd : Mr Percy Parry, Y Bermo
Ysg. Cyn. : Mr J R Humphreys, Y Bermo

Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol tîm pêl-droed Pwllheli yng Nghlwb y Ceidwadwyr ar y 24ain o Fedi o dan lywyddiaeth Mr W W Dobson.

Etholwyd y swyddogion canlynol :

Llywydd :Mr R R Thomas
Is-lywyddion :Mr W B Roberts, Rhyllech; Uwchgapten R Breen Turner;
Meistri G F C Yale a Mr R Roberts,(Y Maer.)
Cadeirydd :Mr W W Dobson
Trysorydd :Mr D Glyn Owen
Ysgrifennydd :Mr Robert Owen
Pwyllgor :Meistri F Bowman, F Pope, W M Toleman, H Hughes, W Robyns Owen,
F E Young, H S Edwards, W R Williams, H H Williams, David Williams,
Humphrey Jones, T Wilkinson, Watson ac T Williams.

Derbyniwyd cais Pwllheli i chwarae yng Ngynghrair Y Cambrian Coast, gyda’r gêm gyntaf i’w chwarae gartref yn erbyn Bala ar yr 2ail o Hydref. Roedd Pwllheli ar y blaen ar hanner amser, gyda goliau gan J Morley Edwards a Tudor Jones. Cafwyd gêm galetach yn yr ail hanner yn enwedig yn y munudau diwethaf ar ôl i Bala sgorio i’w gwneud hi’n dair i ddwy o blaid Pwllheli, ond methu a sgorio gôl arall wnaeth Bala.

Cynghrair o chew tîm oedd hi yn y diwedd ar ôl i Dywyn dynnu allan, a gwelwyd yn fuan iawn fod gan Y Bermo yn ogystal a Phwllheli dîm cryf. Erbyn dechrau Rhagfyr roedd y ddau ohonynt ymhell ar y blaen o bawb arall, a’r unig ddau dîm efo record cant y cant, fan belled. Gwelwyd gêm bwysica’r tymor afallai, yn cymryd lle dros wyliau’r Nadolig. Roedd yna dorf enfawr ar y Rec ar ŵyl San Steffan yn disgwyl ymddangosiad Y Bermo; a chymerwyd £40 ar y giât, swm eithaf sylweddol y pryd hynny. Pwllheli ddaeth allan yn fuddugol ar ôl gêm gyffrous, o ddwy gôl i un.

Ar Ddydd Calan roedd gan Y Bermo gêm anodd arall, i ffwrdd o gartref yn erbyn Dolgellau. Mewn gêm galed a chyda thymer yn gorlifo gwelwyd ymladd yn torri allan yn ystod y gêm a chwaraewyr Dolgellau yn cerdded oddi ar y cae cyn y diwedd. Bu’r digwyddiadau yn destun ymchwiliad gan Gymdeithas Pêldroed Cymru, ac fel canlyniad gwaharddwyd Harold Meredith, capten Dolgellau am fis, a’r tirmon, Tom Morris am weddill y tymor. Ceryddwyd gweddill y tîm am eu hymddygiad a gorfodwyd i bwyllgor Dolgellau roddi rhybuddion o gwmpas y cae ynglŷn ag ymddygiad y clwb ac i sicrhau ffensio digonol o amgylch y maes.

Dyfarnwyd y dylai cyfrif y gêm fel un gyfeillgar, a threfnu ei hail chwarae yn nes ymlaen yn y tymor. Ennillodd Y Bermo apêl yn erbyn y penderfyniad a gwelwyd y sgôr o dair i ddwy o’u plaid yn sefyll.

Toedd yna ddim gildio i fod o ochr Y Bermo. Erbyn canol Ionawr roeddynt ar frig y tabl, er wedi chwarae un gêm yn hwy na Phwllheli, ond gyda chyfartaledd goliau lawer yn well, a byddai’n rhaid i Bwllheli ymweld â’r Bermo eto cyn diwedd y tymor.

Cafodd Y Bermo ysbaid o gêmau cynghrair am ychydig ym mis Chwefror, a hynny i chwarae yng nghwpan Sir Drefaldwyn. Fel mae’n digwydd eu gwrthwynebwyr oedd Dolgellau, a gydag ond ychydig dros fis wedi mynd ers cwrdd yn y gynghrair roedd straen yn amlwg yn bodoli ar ddiwrnod y gêm. I wneud pethau’n waeth penderfynodd Mr Morris o Flaenau Festiniog, dyfarnwr yn y gêm gyntaf, ddod i wylio’r gêm. Gyda’r dorf yn dechrau tynhau fe’i gorfodwyd i adael y cae ar ôl iddo wrthod mynd o’i wirfodd.

Ni chafwyd fawr o drafferth yn ystod y gêm, ond gyda’r canlyniad ar y diwedd yn ddwy gôl yr un, roedd angen chwarae amser ychwanegol, ffaith oedd i fod yn amlwg i bawb gan fod yr ornest dair wythnos yn hwyr yn cael ei chwarae. Gwrthododd Y Bermo wneud hynny a cherdded oddi ar y maes. Penderfynodd pwyllgor y gwpan ddyfarnu’r gêm o blaid Dolgellau, ond enillodd Y Bermo apêl a wnaethpwyd i Gymdeithas Pêldroed Cymru a chael hawl i’w hail chwarae. Dolgellau enillodd y gêm ar ôl chwarae goramser dwywaith, a hynny o ddwy gôl i ddim.

Tra’r oedd y drafferth yma’n mynd ymlaen daeth yn amser chwarae rownd gyntaf Cwpan Her y Cambrian Coast. Gwrthododd Dolgellau hyd yn oed gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Dyma sut ddaeth yr enwau allan o’r het.

Bermo Rovers v Bala
Dyffryn v Bermo Town
Porthmadog v Harlech
Criccieth v Pwllheli

Doedd gan Griccieth fawr o siawns yn erbyn Pwllheli ar y diwrnod gan golli’r gêm o bum gôl i un. Porthmadog fyddai gwrthwynebwyr Pwllheli yn y rownd gynderfynol.

Cynlluniwyd gan: Keith Parry Hawlfraint 2006