Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cynghrair Arfordir Gogledd Cymru yng Ngwesty’r North Western, Bangor o dan lywyddiaeth
Mr R D Richards, ym mis Mehefin 1910.
Nid oedd cynrychiolydd Carnarfon yn fodlon o glywed fod cais tîm Cyffordd Llandudno i ymuno ag Adran i wedi’i gymeradwyo.
Roedd nifer o chwaraewyr Conwy wedi ymuno a Llandudno yn ystod y tymor cynt, ac roedd hyn wedi arwain at ymddiswyddiad
Conwy o’r gynghrair cyn diwedd y tymor. Teimlad Carnarfon oedd bod hyn wedi cael effaith ar eu siawns o guro’r gynghrair.
Cynigiwyd diddymu’r rheol ugain milltir gan glwb Llandudno, ond roedd Mr Weekes, Caergybi yn erbyn y cynnig gan ei fod
yn gefnogol i’r clybiau llai ariannog ac yn cefnogi talent leol. Ar ôl trafodaeth hir gwrthodwyd y cynnig.
Mewn cyfarfod o Gymdeithas Pêl-droed Gogledd Cymru a gynhaliwyd yng Nghyffordd Llandudno ganol mis Gorffennaf adroddwyd
ar ymddygiad G H Jones, Carnarfon yn y gêm ym Mhwllheli ddiwedd y tymor cynt. Cadarnhaodd y dyfarnwr, Mr Yates o Gaer iddo
anfon Jones oddi ar y cae am drawo Pugh. Dywedodd Jones nad oedd hyn yn wir, ac mai safiad hunanamddiffynol gymerodd yn
dilyn cael ei gicio dwywaith gan Pugh. Nid oedd y cyfarfod yn fodlon a’r eglurhad ac fe’i gwaharddwyd am gyfnod o 14
diwrnod.
Yn yr un cyfarfod diwygiwyd y rheol yn diffinio chwaraewyr â hawl cymryd rhan yn y Gwpan Iau. O hyn ymlaen eithriwyd
unrhyw un oedd wedi chwarae yn y cwpanau eraill yn ogystal ag Adran I o unrhyw gynghrair rhag cymryd rhan.
Y ‘Thursdays’ oedd y cyntaf i ethol swyddogion pan gynhaliwyd cyfarfod blynyddol yn y Drill Hall ddechrau Medi o dan
lywyddiaeth Mr D John Jones.
Llywydd :
Mr Maurice Jones.
Is-lywyddion :
Parch W S Jones BA, Mr T J Houghton Davies, Cradoc Davies ac J Anthony.
Cadeirydd :
Mr D John Jones.
Is-gadeirydd :
Hughie Griffith.
Trysorydd :
Mr Tilsley.
Ysgrifennydd :
Mr H R Williams.
Ysg.Cyn. :
Mr W Hughes, Mor Wylfa.
Capten :
Mr Dan Thomas.
Is-gapen :
Mr Hughie Griffith.
Pwllgor :
Meistri W Pierce, Tommy Williams, R Parry, Vaughan Jones, Batterbee,
Baldwin Jones, Foss, Evans (Morton’s),
Roberts (Stead a Simpson)
Dan Thomas J J Edwards, Jack Morris a Hughie Griffith.