Ar Ddydd Llun y Pasg 1900 trefnodd y Meistri Andrews a’i Fab ddiwrnod o chwaraeon a rasys beics yn y ‘Rec’ neu’r
Adlonfa fel ei gelwid. Enillodd Mr F Mason, Manceinion y ras beics dros bum milltir am yr eilwaith a thrwy hyn
yr hawl i gadw’r gwpan hardd am byth. Hefyd yn bresennol i ddiddori’r llu oedd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle,
enillwyr diweddar yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Trefnwyd fod telerau ffafriol ar gael gan y cwmnïau Rheilffordd a
gyda’r tâl mynediad ‘modest’ o chwe cheiniog, gwelwyd torf oddeutu 3000 o bobol yn dod trwy’r giât i fwynhau’r
gweithgareddau.
Wythnos yn ddiweddarach golwg digon gwahanol oedd na ar y lle. Dim ond dau dîm ddaeth i gymryd rhan mewn cystadleuaeth
a drefnwyd gan y clwb pêl-droed. Curodd Porthmadog dîm Pwllheli yn y ‘final’ o chwe gôl i ddim.
Ym Mehefin 1900 gwelwyd yr hysbyseb canlynol yr Yr Udgorn.
Great Football Match
For a
Massive Goblet,
Which will be on view at Messrs R & J Dicks,
68, High Street, Pwllheli
MR OWEN MILES,
Pwllheli North End FC, has agreed to compete
against Sanger’s famed centre forward Elephant
as to which can kick the most goals out of FIVE
tries each. MR MILES and the Elephant will keep
goal in turn, and can only be seen at
LORD JOHN SANGER’S & SONS LTD.
ROYAL CIRCUS.
Roedd yna sôn am dîm Pwllheli North End cyn hyn, yn ôl yn y flwyddyn 1889 gyda chofnod o gêm rhyngddynt â Nefyn, ond dim ar ôl hyn.
Mae'n eithaf posibl felly mai enw wedi’i ddefnyddio ar gyfer hysbyseb y gystadleuaeth yn erbyn yr eliffant oedd hwn.
Ffurfiwyd Cynghrair Caernarfon a’r Cylch ar gyfer tymor 1900-01, a chafwyd tarian werth £20 yn rhodd gan y Meistri Solomon
Andrews a’i Fab i chwarae amdani. Mr Fred E Young, asiant i’r cwmni oedd yr ysgrifennydd cyntaf. Sefydlwyd y gynghrair newydd
yma gyda’r bwriad o wella safon y gêm yn yr ardal a rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc lleol i ddatblygu eu sgiliau. Yn ogystal
â Phwllheli, y timau eraill i ymaelodi oedd Bethesda, Llanberis, Parc Faenol, Porthmadog a Festiniog.
Colli wnaeth Pwllheli yn eu gêm gynghrair gyntaf erioed yn Festiniog o chwe gôl i ddwy. Mae’r adroddiad ym mhapur lleol
Yr Udgorn yn canmol ymdrech y tîm, yn eu dillad streips coch a gwyn, ond yn feirniadol iawn o gyflwr truenus y cae,
a oedd yn gwbwl anaddas a pherygl i chwarae arno.
Curo Porthmadog o naw gôl i ddwy wnaeth Llanberis ar yr un diwrnod, felly doedd gobeithion Pwllheli ddim yn uchel wrth
ddisgwyl Llanber, eu gwrthwynebwyr cyntaf gartref, wythnos yn ddiweddarach. Roedd Llanberis fel y gallech ddisgwyl yn
llawn hyder am fuddugoliaeth, ac o fewn ychydig funudau o ddechrau’r ail hanner roeddynt ar y blaen o dair gôl i un.
Gyda’u cefnau yn erbyn y wal brwydrodd Pwllheli'n galed, a gydag ychydig o lwc gymaint â dim arall, sgoriwyd gôl gan Young
ac o fewn ychydig funudau un arall gan Evans i wneud y sgôr yn gyfartal. O fewn dim derbyniodd un o chwaraewyr Pwllheli,
Morris Williams gic yn ei frest a bu’n rhaid iddo adael y maes am weddill y gêm. Pwysodd Llanberis a’u holl
grym am weddill
y gêm, ond dal yn gadarn wnaeth yr hogia gan sicrhau canlyniad penigamp a haeddiannol.
Cyn diwedd y flwyddyn gwelwyd yr enghraifft gyntaf o gamymddwyn gan y dorf. Porthmadog oedd yr ymwelwyr yn y Blaenau
wythnos cyn y Nadolig. Roedd y sgôr yn sefyll ar gôl yr un ychydig funudau i mewn i’r ail hanner pan sgoriodd y tîm cartref.
Pan wrthododd y dyfarnwr ganiatáu’r gôl aeth y dorf o’u co’ ac o fewn ychydig roeddynt wedi’i amgylchynu yng nghanol y cae.
Llwyddwyd i gael rhyw lun o drefn ar bethau a chwblhawyd y gêm heb ychwanegiad i’r sgôr. Bu’n rhaid i’r dyfarnwr symud
reit sydyn er mwyn osgoi llid y dorf wrth iddynt ei erlid oddi ar y cae.
Erbyn canol mis Ionawr 1901 roedd Bethesda a Pharc y Faenol wedi tynnu allan gan adael dim ond pedwar tîm i gwffio am y teitl.
Toedd yna fawr o siâp ar Bwllheli pan ymddangosodd y tabl isod.
|
Gêm |
Ennill |
Colli |
Cyf |
B |
E |
Pt |
Porthmadog |
6 |
4 |
1 |
1 |
25 |
12 |
9 |
Festiniog |
4 |
2 |
1 |
1 |
11 |
7 |
5 |
Llanberis |
5 |
2 |
2 |
1 |
18 |
20 |
5 |
Pwllheli |
5 |
0 |
4 |
1 |
7 |
23 |
1 |
Gemau heb eu cynnwys :
Pwllheli v Festiniog
Festiniog v Llanberis
Yn anffodus dyma’r tro diwethaf y gwelwyd tabl yn y wasg a toes dim sicrwydd os chwaraewyd y gemau ac os coronwyd
pencampwyr o gwbwl. Un peth sy’n eithaf saff yw na wnaeth Pwllheli ennill y teitl.
Cynlluniwyd gan: Keith Parry Hawlfraint 2006
|