Pwllgemau hanes chwaraeon Pwllheli ers 1870, criced,hoci,peldroed a rygbi.
Search billions of records on Ancestry.com
   



Criced

Hoci

Peldroed

Rygbi



Newyddion

Gwybodaeth

Cyswllt



Croeso i Pwllgemau - gwefan chwaraeon Pwllheli.

Pwllgemau ydi enw gwefan hanes chwaraeon Pwllheli. Bwriad y safle yw adrodd hanes y chwaraeon mwyaf poblogaidd (heblaw am golff) sydd wedi bodoli yn y dref dros ganrif a mwy. Ychwanegir tudalennau newydd yn rheolaidd fel y daw mwy o wybodaeth i law, ac fel y bydd amser yn caniatau.

Ffynhonnell y rhan helaeth o'r wybodaeth ysgrifennedig yw papurau newydd lleol y cyfnod ac mae enwau'r rhain wedi'u cofnodi ar y dudalen wybodaeth. Mae cyfraniadau mewn ffurf lluniau, ysgrifenedig a.y.gan unigolion yn cael eu cydnabod yn unigol.

Mae cysylltiadau uniongyrchol i'r chwaraeon gwahanol ar yr ochr chwith.Pwyswch ar un o'r lincs ac fe ewch yn syth i dudalen gyntaf eich dewis. Does yna ddim manylion am hoci ar hyn o bryd, ond mae galeri lluniau rygbi i'w gweld ers dechrau Ebrill. Gyda lwc fe ddaw rhagor o storiau a lluniau yn fuan.

Os oes gennych chi rywbeth i’w gynnig mewn ffurf lluniau, hanesion, adroddiad a.y. am y gemau yma cysylltwch wrth glicio ar y gair Cyswllt ar ochr chwith i’r dudalen hon. Ydach chi’n 'nabod rhywun sydd â diddordeb mewn chwaraeon? Os felly soniwch wrtho fo neu hi am y safle, does wybod pa drysorau ddaw i law.

Cliciwch ar y linc 'Newyddion' ar ochr chwith y dudalen i weld y cynnwys mwyaf diweddar i gael ei ychwanegu.

Gobeithio y gwnewch fwynhau safle pwllgemau ac y dowch chi’n ôl yn fuan.

 

Cynlluniwyd gan Keith Parry Hawlfraint 2006