Search billions of records on Ancestry.com
   
 
  Hafan
  Hafan
 
  Chwaraeon
  Criced
  Hoci
  Peldroed
  Rygbi
 
  Hanes
  Dechreuad
  Blynyddoedd Cynnar
  1900-1910
  1911-1920
  1921-1930
  1931-1940
  1941-1950
  1951-1960
  1961-1970
  1971-1980
  1981-1990
  1991-2000
  2001-ymlaen
  Ystadegau Gemau
  Ystadegau Unigol
  Lluniau
 
  Gwybodaeth
  Cyswllt
  Gwybodaeth
 

 

Croeso i wefan Clwb Criced Pwllheli

Criced oedd y gêm tîm gyntaf i gael ei chwarae yn y dref yn ôl yn 1870. Dyma’r cyfnod hefyd, fel mae'n digwydd, pryd y cychwynnodd gyrfa'r enwog W G Grace, ac roedd yr hanesion amdano ef yn siwr o fod wedi bod yn hwb i ledaenu'r gêm drwy'r wlad yn y cyfnod yma.

Fe fyddai’n cymryd rhai blynyddoedd i’r gêm sefydlu’n iawn yn y rhan yma o’r byd, ond erbyn diwedd y ganrif gyda thrafnidiaeth yn gwella a mwy o sylw yn cael ei roi i’r gêm yn y wasg leol ymledodd y gêm i bron bob rhan o’r Sir.

Fel bob tîm arall mae’n siŵr cyfnodau o lanw a thrai a gafwyd dros gyfnod o fwy na chanrif a chwarter. Gwelwyd llawer o fynd a dŵad, chwaraewyr o sawl cyfandir yn troi mewn i chwarae i Bwllheli. Rhai enwau yn dal y llygaid wrth edrych drwy fanylion hen gemau, enwau fel Milton Cato Clarke, T S Stafford, Richard Crawley, Hancock a Jennings. Mae eraill, rhai gwell na'i gilydd, yn parhau yn y cof am eu gallu i hitio pêl neu am y ddawn i fowlio ac eraill yn fythgofiadwy am resymau cwbwl wahanol.

Aeth amryw ymlaen i chwarae i Sir Gaernarfon ac un neu ddau i chwarae i Gymru ar lefel ieuenctid. Aeth un gafodd ei eni yn y dref hyd yn oed ymlaen i chwarae i’r Iwerddon.

Bu’n rhaid symud cartref fwy nag unwaith. Yn y blynyddoedd cynnar, chwarae ar y Morfa ac yng nghyffiniau Glandon a Ffordd Abererch, wedyn symud i’r Rec ac erbyn hyn wedi cartrefu ym Mharc Bodegroes yn Efailnewydd ers dros chwarter canrif. Mae’r clwb yn berchen ar gyfleusterau ac amodau chwarae gyda’r gorau yn y Gynghrair heb os.

Ar hyn o bryd mae safon chwarae yn dda iawn ac yn ystod 2005 cafodd y clwb eu tymor mwyaf llwyddiannus eto, gyda’r ddau dîm yn ennill dyrchafiad i adran uwch, ac mae pethau’n argoeli’n dda am dymor 2006 hefyd.

Oddi tan y gair Hanes fe gewch bori drwy gyfnodau penodol; o’r blynyddoedd cynnar hyd at heddiw.

Ar ben ochr dde i’r dudalen hon mae’r Canlyniadau ac oddi tano’r Newyddion diweddaraf. Cliciwch ar y bocsys i gael mwy o fanylion.

Os oes gennych unrhyw hanesion difyr neu hen luniau yr hoffech eu cynnwys, cysylltwch! Croesawir eich sylwadau. Ar waelod yr ochr chwith o dan y pennawd Gwybodaeth gellwch gysylltu trwy e-bost a gweinyddwr y safle - cliciwch ar y gair Cyswllt.

Gobeithio y gwnewch fwynhau’r cynnwys ac y gwelwn ni chi’n ôl yn fuan.

Cymru

Cynlluniwyd gan: Keith Parry Hawlfraint 2006
Canlyniadau
Tymor 2008.
Cynghrair Gogledd Cymru Adran 2. Darllenwch am ganlyniadau'r tymor fan belled.
Newyddion
Manylion Unigol Chwaraewyr
Manylion unigol chwaraewyr y clwb -    perfformiadau gorau gyda bat a phêl. Beth oedd eich sgôr gorau chi efo'r bat? Faint o wicedi ydach chi wedi'i gymryd drwy'ch gyrfa?

Ben Jones yn curo record batio oedd yn sefyll ers 1976.
Sgoriodd Ben Jones 716 o rediadau yn ystod y tymor criced i basio record sefydlwyd gan Gwyn Jones yn 1976.

Rhestr gemau criced am 2006.
Cliciwch uchod i weld y gemau am y tymor.

Chwaraewr tramor cyntaf tîm criced y dref.
Mae'n well i chi ddechrau dysgu siarad Indian. Mae'r clwb yn son am gael chwaraewr o'r cyfandir hwnnw i chwarae i'r tim y tymor nesaf.

Ystadegau Unigol.
Cliciwch uchod i weld pwy sydd wedi chwarae fwyaf o weithiau i'r clwb ers 1954. Pwy yw'r batiwr gorau a phwy sydd wedi cymeryd y mwyaf o wicedi.