Ychydig o fanylion sydd ar gael am y gêm cyn y 1650au heblaw iddi ddatblygu allan
o’r nifer o gemau gwerinol oedd yn bodoli ar y pryd; rhywbeth yn gyffelyb i griced
ffrengig s’yn adnabyddus i’r rhan fwyaf o bobol heddiw. Mae prawf o fodolaeth y
math yma o gemau i’w gweld mewn ffenestri lliw yn dyddio’n ôl i oddeutu 1180OC;
yn Eglwys Gadeiriol Canterbury a hefyd yn Gloucester, ble y gwelir bachgen gyda
ffon glwm a phêl o gwmpas 1350OC. Mae yna nifer o enghreifftiau eraill mewn dogfennau
yn darlunio'r un math o beth o’r cyfnod yma.
Mae tarddiad y gair criced yn dod o’r gair Eingl-Sacson, ‘cricce’, gair esblygodd
erbyn y 1550au i ddynodi gem werinol. Fe’i disgrifir bryd hynny fel gem boblogaidd
a chwaraeid gan bawb, ble yr aed i gae mawr agored i guro pêl hefo darn o bren.
Roedd y gêm yn bodoli ar lefel gwledig a lleol ar hyd a lled rai o siroedd De Lloegr
yn yr 17eg ganrif. Gem hamdden o fewn pentref, oedd weithiau yn troi i fod yn gystadleuaeth
rhyng-benterfol oedd hi. Y Sul oedd yr unig ddiwrnod rhydd oedd ar gael ar unig lecyn
gwastad llyfn oedd mynwent yr Eglwys. Bryd hynny llecynnau caeedig yn weddol rydd o
feddfeini oeddynt, lle delfrydol i ymarfer y gêm. Dyweder yn llenyddiaeth y 17eg ganrif
mai un ffordd o gael gwared â ‘pew-ache’ ar ol dioddef gwasanaeth braidd yn hir oedd
chwarae criced yn y fynwent. Mae’r arlunydd enwog Turner wedi llunio darlun rhamantus yn
‘Wells Cathedral with a Game of Cricket’ (oddeutu 1795) o gêm griced yn cael ei
chwarae gyda wiced dau stwmp yn erbyn mur allanol yr Eglwys Gadeiriol.
Yn ystod y 19eg ganrif enillodd Glwb Criced Yr Wyddgrug gryn enwogrwydd drwy fabwysiadu
cymal yn eu cyfansoddiad yn annog aelodau fel a ganlyn : ‘Prior to playing in any matches members
shall attend early morning service at St Mary’s Church in cricket costume.’
Rhag ofn i chwi feddwl fod pethau’n fêl i gyd, roedd gwrthdaro rhwng y gêm a’r Eglwys
yn bodoli bron o’r dechrau. Mae 'na son am achosion llys yn erbyn plwyfolion a hyd yn
oed curadiaid, yn eu dirwyo am chwarae ar y Sul, ac mewn lle o’r enw Boxgrove yn Lloegr
yn 1622 bu torri ffenestri tra roedd gosber ymlaen. Roedd cryn feirniadu oddi wrth Weinidogion
Piwritanaidd yr oes am feiddio halogi’r Sabath; gymaint yn wir fel y gwelwyd pasio Mesur yn 1625
yn gwahardd chwarae gemau anghyfreithlon a chriced yn eu mysg; ond ychydig o sylw a gymerwyd o hyn
yn y wlad.
Mae’r hanes ar ôl 1650 yn llawer cliriach. Digwyddodd rhywbeth rhyfedd dros y ganrif nesaf.
Yn sydyn gwelwyd aristocratiaid a hyd yn oed y teulu brenhinol yn cymryd rhan yn y gêm, a oedd
cyn hyn yn ffit i’r dosbarth gweithiol yn unig. Fe’i gwelid yn awr fel modd delfrydol i atgyfnerthu
eu statws mewn cymdeithas, ac i fwydo’r archwaeth anniwall am fetio oedd mor gyffredin ar y
pryd. Roedd gan y gwŷr hyn gymaint os nag mwy o ddiddordeb mewn gamblo nag yr oedd ganddynt
mewn ymarfer awyr agored. Erbyn ail hanner y 18fed ganrif roedd y gêm wedi sefydlu yn Ne Lloegr ac
yn Llundain a’r gêm yn cael ei harwyddo gan aristocratiaid a gŵyr cefnog. Rhydd y gêm ffynhonnell
i adloniant i’r dynion hyn, oedd a digon o arian ag amser ar eu dwylo. Yn union fel saethu a hela
edrychid ar griced fel gem wrol yn gofyn am sgil, gyda digon o gyfle i fetio yn ogystal. Mae’n anodd
amgyffred y lefel o fetio oedd yn mynd ymlaen, ar bopeth dan haul, ac wrth gwrs fel y gallwch
ddychmygu roedd llwgr wobrwyo yn rhemp hefyd.
Gyda hyn daeth y gêm yn ofnadwy o boblogaidd yn yr ardaloedd mwyaf poblog, yn denu tyrfaoedd o filoedd
a gwelwyd sefydlu meysydd yn y tai mawreddog ac ar eiddo’r tirfeddianwyr cefnog. Cyhoeddwyd y
rheolau cyntaf a daeth y gêm lawer yn fwy trefnus, a gwelwyd y gêm yn raddol symud o’r fynwent i
feysydd y byddugion.
Felly drwy’r cyfnod yma gwelir y gêm yn rhannu i ddau gyfeiriad; ar yr un llaw, y gêm wledig yn
parhau i gael ei chwarae am bleser a chyda’r cysylltiad â’r Eglwys a’r dafarn yn parhau, ac ar y llaw
arall, gem y crachach, yn cael ei chwarae er budd y bobol fawr.
Parhau gwnaeth y cysylltiad gyda’r Eglwys er efallai i’r ddolen wanhau gyda thraul amser.
Ar wahân i ddim arall roedd clerigwr yn ddewis poblogaidd fel dyfarnwyr oherwydd y rhagdybiaeth
o’i onestrwydd.
Mae’n bwysig sylweddoli nad oedd angen deddfau yn y blynyddoedd cynnar hyn, dim hyd nes i’r
aristocratiaid gymryd y gêm i fyny beth bynnag. Adolygwyd y rheolau nifer o weithiau rhwng
ymddangosiad y rhai cyntaf yn 1744 a 1786, yn rhannol i wrthweithio’r ymgais barhaol a dyfeisgar
gan gricedwyr i gymryd mantais annheg o’u gwrthwynebwyr. Yn 1771 daeth dyn o’r enw Thomas White,
'Shock’ i’w ffrindiau i gêm efo bat oedd cyn lleted a’r wicedi, gan ei gwneud bron yn amhosibl i’w
gael allan. Diwygiwyd y deddfau yn 1774 i ddileu hyn.
Gyda datblygiad y gêm daeth y term ‘not cricket’ yn boblogaidd yn yr Oes Fictorianaidd ac
erys hyd heddiw yn ffon fesur o foesoldeb, mewn sawl maes, yn gydnabyddiaeth fod yna rai pethau er o
fewn y rheolau, tu allan i ysbryd y ‘gêm.’
Ychydig iawn sy’n gyffredin rhwng y gêm yma a’r un fodern. Hyd at 1779 chwaraeid gyda wicedi o
ddau stwmp. Roedd y bat yn edrych yn debyg iawn i ffon hoci yn pwyso hyd at bedwar pwys, ond ni
chaniateir gwisgo padiau na menig. Yr unig beth yn wir sydd wedi goroesi yw’r bel sydd yn
edrych ddigon tebyg heddiw i beth yr oedd yn yr hen ddyddiau.
Yn ystod tymor 1787 daeth yr enwog MCC I fodolaeth a hyd yn oed cyn iddynt chwarae ar gae Thomas
Lord yn Llundain roeddynt wedi sgwennu set o ddeddfau newydd, gan ragdybio awdurdod llawn o’r
gêm o hynny ymlaen.
Erbyn diwedd y ganrif roedd Lord’s wedi hen sefydlu ei hun, ac er ei fod wedi’i leoli bron
yng nghefn gwlad tyrrai hyd at 5,000 yno, i gyd yn talu 6d i dderbyn mynediad i weld gem.
Tyrrai yno hefyd, chwaraewyr gorau siroedd pwerus Kent a Hampshire; Lord’s oedd y lle i gynnal
y gemau mawr.
Roedd safon y chwarae yn gwella ar hyd yr adeg, yn enwedig medr y batiwr ac erbyn 1790 roedd
pobol fel William Beldham wedi dechrau rhuthro allan i hitio’r bel, arferiad hollol newydd. Er i’r
bowlwyr geisio amrywio eu steil codi wnaeth rhagoriaeth y batiwr a daeth sgorio cant yn
beth cyffredin. Daeth yr MCC o dan bwysau cynyddol oddi wrth y chwaraewyr proffesiynol i unioni’r
cydbwysedd rhwng bat a phêl, ac er iddynt ychwanegu ar faint y stympiau fwy nag unwaith parhau i
lifo gwnaeth y rhediadau. Roedd y broblem yn deillio o Reol 10 o’r Deddfau a’r diffiniad o fowlio teg.
‘Roedd rhaid bowlio ‘underhand,’ gyda’r llaw o dan y benelin wrth ollwng y bel.
Ni chaniateir ymestyn y fraich yn syth allan na bowlio o gefn y llaw. Gellir
gweld felly fod un llaw'r bowliwr, a hyd yn oed y ddwy law wedi’u clymu tu ôl i’w gefn.
Tydi hi ddim yn syndod o gwbwl felly fod yna fowlio yn groes i’r rheolau yn digwydd. Cyn belled yn ôl
a 1780au bu i un Tom Walker o Hambledon ddechrau bowlio gyda’i fraich yn syth allan o’i gorff, a
daeth yr arferiad yn fwyfwy cyffredin ar ddechrau’r ganrif ganlynol. Daeth anhrefn llwyr i aml i gêm,
cymaint oedd cryfder teimladau ar y ddwy ochr, pan geisiwyd y fath beth. Er I’r arferiad ddod yn
fwy amlwg, yn enwedig allan yn y wlad, i ffwrdd o olwg Lord’s, roedd safiad y pencadlys yn sicr gadarn
yn ei erbyn.
Erbyn 1816 roedd pethau wedi symud ymlaen gymaint fel i’r mater gael ei gynnwys ar agenda ar un o
gyfarfodydd yr MCC. Daeth pethau i ben mewn gem rhwng Kent a’r MCC ar 15fed Gorffennaf 1822 pan
ddechreuodd un o chwaraewyr Kent, John Willes, fowlio ‘roundarm.’ Galwyd ‘no-ball’
yn syth. Ffieiddiwyd Willes, lluchiodd y bel ar y llawr a cherddodd oddi ar y maes a reidiodd i
ffwrdd ar ei geffyl, y chwaraewr cyntaf i gael ei alw am daflu. Ni welwyd Willes eto yn chwarae
mewn gem bwysig.