Y clwb criced cyntaf i ymddangos yng Ngwynedd oedd Clwb Criced Glannau’r Fenai ym Mangor yn 1840. Mae’n bur
debyg i’r gêm gyrraedd gyda’r peirianwyr oedd yn adeiladu’r bont reilffordd dros y Fenai, ond wnaeth pethau ddim parhau yn hir.
Diflannodd am gyfnod pan gwblhawyd y gwaith adeiladu ym Mis Mawrth 1850. O fewn rhyw ddwy flynedd ceisiwyd atgyfodi’r
gêm ond methiant fu hynny oherwydd diffyg brwdfrydedd. Yn 1856, fodd bynnag, gwelwyd newid gyda nifer o weithwyr ifanc
ar y rheilffordd yn cymryd y gêm i fyny eto.
Yn awyddus i wneud defnydd o’u hamser hamdden chwaraeant emau criced ar Barc Britannia, parc pleser a ddarparwyd gan y
meistri ar lannau’r Fenai, rhwng y ddwy bont.
Ychydig iawn oedd gan yr ifanc i’w wneud a’u hamser sbâr bryd hynny heblaw am fynychu’r capel a hel diod. Toedd dim
son am chwarae tennis, golffio na reidio beics ac ni chlywid dim son am hoci na phêl-droed am genhedlaeth arall. Yr oedd
meddwi a gwario gormodol ar ddiota yn broblem oedd yn cynyddu yn yr oes oedd ohoni, yn arwain yn aml iawn at ddinistrio
bywydau a theuluoedd ac i dor cyfraith. Rhydd criced y cyfle i’r gwŷr ifanc yma ymwneud a difyrrwch gwrol ac iach
fyddai’n llenwi’u hamser sbâr a'u cadw i ffwrdd o demtasiynau eraill. Roedd hyn yn wir tra eu bod yn chwarae beth bynnag.
Ar brynhawn Sadwrn arferid chwarae gyda’r tymor yn ymestyn rhwng Ebrill a chanol Hydref; dechrau am o gwmpas dau o’r
gloch a pharhau i chwarae tan tua saith yr hwyr. Pur anaml fyddai amser am hoi yn ystod y gêm. Disgwylid tan ar ôl y
gêm cyn symud i’r dafarn agosaf i gymdeithasu, gwledda ac i fyfyrio dros ddigwyddiadau’r dydd.
Sgorio isel a welid yn gyffredinol yn y cyfnod yma, a dim rhagoriaeth y bowlio oedd yn gyfrifol am hyn rhan amlaf.
Roedd cyflwr y wicedi yn drychinebus o wael yn amlach na pheidio; roedd rhai mor ddrwg yn wir fel ei bod yn beryg
bywyd batio arnynt. Doedd y maes ychwaith fawr o ysgogiad i fatio clasurol gan ei fod yn aml iawn yn anwastad a’r
gwair yn hir. Mae yna dipyn o sylw yn cael ei roi yn y wasg leol am gyflwr y caeau a dim eithriad oedd hi i dimau
wrthod chwarae oherwydd cyflwr truenus y maes.
Hwn oedd cyfnod y trawsnewid mewn steil bowlio ac mae’n debyg bod rheolaeth a chywirdeb yn cymryd sedd gefn i gyflymdra
ac aneliad gwallus ac afreolaidd. Yn aml gwelir y golofn ‘extras’ yn hawlio’r sgôr uchaf mewn gem.
Ychydig o griced lleol oedd yn bodoli yn y cyffiniau pan chwaraeodd Pwllheli eu gem gyntaf yn 1870. Roedd yna glybiau
wedi sefydlu ym Mhorthmadog a Dolgellau eisoes, ac yn nes adref roedd gwaith plwm Llanengan yn hwb i gychwyn clwb newydd
yno. Roedd yna glybiau eraill yn y Bala, Llangollen ac ar hyd yr arfordir yng Nghaernarfon ac ymhellach draw. Byddai
diffyg trafnidiaeth ddibynadwy a chostau trafeilio yn siŵr o ffrwyno datblygiad y gêm yn lleol am sawl blwyddyn i ddod.
Mae rhifyn yr 2ail o Ebrill 1870 o’r North Wales Chronicle yn pwysleisio’r angen am ymarfer corfforol ac yn argyhoeddiedig
o fudd gem griced nid yn unig er mwyn cadw’r corff yn iach, ond hefyd y meddwl yn glir. Dyma’r tro cyntaf i’r gêm gael ei
chrybwyll yn y dref. Er bod yna son am fodolaeth clwb efo pedwar deg o aelodau rai blynyddoedd ynghynt mae’n anodd cael
unrhyw brawf o hyn. Ymddengys mai Sais dienw fu’n gyfrifol am gyflwyno’r syniad, ond mae’r clod am feithrin y diddordeb
fodd bynnag yn disgyn ar un Rice Owen Pughe, fferyllydd a drygist yn y Stryd Fawr. Cadarnheir fod gan y clwb dri deg pump
o aelodau a bod rhagor na £4 wedi’i gasglu mewn tanysgrifiadau. Barn y newyddiadurwr yw mai doeth fyddai ceisio nawdd
ychwanegol gan wŷr cefnog y dref a’r cyffiniau.
Erbyn dechrau Mai gwelir cadarnhad o rai o swyddogion y clwb. Roedd y trysorydd R O Pughe wedi bod yn gweithio’n ddygn
a gwelir ei fod wedi sicrhau cyfraniad o £1 gan yr Uwch Siryf, H J Ellis Nanney Ysw, gini gan T Love-Jones Parry Ysw AS
a thanysgrifiad o un gini gan O Evans Ysw, Broom Hall. Yn anffodus ni welwyd elw o gyngerdd yn Neuadd y Dref bythefnos
yn ddiweddarach. Y gobaith oedd y byddai wedi sylweddoli elw o £5 i’r clwb uwchben y costau o £30 i’w gynnal. Mewn mater
o ffaith methodd a dangos elw o gwbwl.
Roedd y ddau gapten y Meistri Hyde a Sharpe yn fodlon iawn gyda brwdfrydedd y chwaraewyr ac yn hyderus o allu rhoi
sialens i un neu ddau o’r clybiau lleol o fewn dim amser. Daeth hyn i fod ar y Sadwrn diwethaf yng Ngorffennaf pan
chwaraewyd yn erbyn tîm o Lanengan. Er i Bwllheli golli’n drwm o fwy nag un batiad roedd dipyn o ganmoliaeth i’r tîm.
Er nad oes manylion llawn o’r gêm fe enwir rhai o’r chwaraewyr. Mae’n fwy na thebyg mai gweithwyr o’r gwaith plwm
oedd Martin a Wills o dîm Llanengan, a thafarnwr yn rhedeg y Madryn Arms oedd Nott o dîm Pwllheli. Sharpe a Pughe oedd
y ddau arall a enwir. Nodir isod sgôr y gêm.
Llanengan
Pwllheli
Batiad cyntaf
65
Batiad cyntaf
32
Ail fatiad
50
Ail fatiad
25
Cyfanswm
115
Cyfanswm
57
O gysidro fod pedwar batiad llawn wedi cymryd lle ar yr un diwrnod, mae’n eithaf saff i ddweud mai digon symol
oedd safon y chwarae.
Ar y nos Fawrth canlynol chwaraewyd yn erbyn Porthmadog ar y Morfa. Da o beth efallai nad oes manylion o’r gêm
ar gael gan i’r tîm golli o ddeg wiced.