Search billions of records on Ancestry.com
   
 
  Hafan
  Hafan
 
  Chwaraeon
  Criced
  Hoci
  Peldroed
  Rygbi
 
  Hanes
  Dechreuad
  Blynyddoedd Cynnar
  1900-1910
  1911-1920
  1921-1930
  1931-1940
  1941-1950
  1951-1960
  1961-1970
  1971-1980
  1981-1990
  1991-2000
  2001-ymlaen
  Ystadegau
 
  Gwybodaeth
  Cyswllt
  Cymorth
 

1900 - 1910


Dechrau digon distaw gafwyd i’r mileniwm newydd. Yn wir dim ond cofnod o un gêm a welwyd yn y wasg leol am y tymor cyfan. Chwaraewyd honno ar yr Adlonfa (Y Rec) fel y’i gelwid bryd hynny. Gêm rhwng y dref a thîm o’r Ysgol Sirol oedd hi. Trechwyd y dref gan gymysgedd o fyfyrwyr ag athrawon oedd yn niferu pedair ar ddeg i gyd. Evan R Jones oedd batiwr gorau’r Ysgol gyda 19 rhediad allan o gyfanswm o 66. Roedd hyn yn union ddwbl cyfanswm y dref, a dim ond E Walters gafodd sgôr dwbl gyda deg o rediadau yn eu batiad.

Mae’n deg dweud fod safon criced ym Mhorthmadog yn y cyfnod yma yn rhagori tipyn ar Bwllheli, ac efallai oherwydd hyn mae yna dipyn mwy o wybodaeth am y Clwb hwnnw yn y wasg. Sefydlwyd tîm yno ddegawdau o flaen Pwllheli mae’n eithaf siŵr, felly nid yw’n syndod eu bod ar y blaen ar ddechrau’r ganrif. Yn amlach na pheidio ail dîm Porthmadog fyddai gwrthwynebwyr y dref, a cholli’r rhan fwyaf o’r gemau rheini fyddai’r hanes.

Roedd ganddynt bwyllgor blaengar ar y pryd, gymaint felly fel y gwelwyd chwaraewr proffesiynol yn cael ei gyflogi yn ôl yn y flwyddyn 1902, mwy na chanrif cyn i Bwllheli feddwl am ffasiwn beth. Fe wnaeth Pwllheli elwa rywfaint o hyn hefyd. Cliciwch ar enw William Pike i ddarllen ychydig amdano.

Mae yna son am rai gemau yn cymryd lle yn ystod tymor 1902, un yn erbyn ymwelwyr o Griccieth a’r llall yn erbyn Llanddyfnan. Cyn cychwyn tymor 1903 mae Mr Harry Morgan un o aelodau’r pwyllgor yn rhoddi bat a phêl i chwaraewyr gorau’r tymor cynt. Mr A S Bradbourne enillodd y bat am y sgôr uchaf a Mr Fred Young y bêl am y ffigyrau gorau am fowlio. Mr Caradog Davies, yr ysgrifennydd gyflwynodd y tlysau a wnaethpwyd gan Meistri Gamage o Lundain. Nodir i’r ddau fod yn falch iawn o’r rhodd.

Gwnaeth pwyllgor Pwllheli gais ym mis Mai 1903 am wasanaeth Pike fel hyfforddwr am ddiwrnod yr wythnos. Daeth ymateb cadarnhaol o Borthmadog, yn caniatáu ei wasanaeth bob pnawn Iau drwy Fehefin a Gorffennaf. Roedd disgwyl i Bwllheli ddod i gytundeb ar delerau gyda Pike ac i dalu premiwm o £1 1s 0c i Borthmadog.

Fel y soniwyd yn barod anaml iawn byddai Pwllheli’n cael y fraint o chwarae yn erbyn tîm cyntaf Porthmadog, a’r ail dîm oedd y gwrthwynebwyr mewn gêm chwaraewyd ym Mis Awst 1904. William Pike oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm y diwrnod hwnnw.


Pwllheli

Porthmadog
W Smalley   b L Fielden

3

W H Griffiths d Smalley b W Smalley

2

C J Sutton   b A Hughes

3

J Lloyd    b T S Stafford

0

G A Edwards d D Roberts b L Fielden

10

D Ll Hughes   b T S Stafford

10

T S Stafford   b A Hughes

19

J Garth Jones   b W Smalley

1

H Uren rhedeg allan  

4

David Roberts d Edwards b W Smalley

5

E H Beck rhedeg allan   

9

David Morris d Sutton b T S Stafford

2

Pennell    b A Hughes 

0

L Fielden d Stafford b H Uren

13

A Bennett   b A Hughes

8

W Pike heb fod allan b

100

T James   b L Fielden 

5

H R Griffith   b G A Edwards

7

Pugh   b A Hughes

2

A Hughes d Stafford b Pugh

4

R W Roberts heb fod allan  

0

D Breese d Edwards b Pugh

4

Ychwanegol

8

Ychwanegol

4

Pelawd 34.1

Cyfanswm

i gyd allan 

71

Pelawd 22.3

Cyfanswm

i gyd allan 

142

Bowliwr P D Rh W    Bowliwr P D Rh W
A Hughes 15.1 6 20 6 Stafford 12 1 47 3
L Fielden 14 3 26 3 Smalley   6 1 25 3
D Roberts 2 0   8 0 Bennett   4 0 22 0
W H Griffiths 3 0   9 0 Pugh   4 0 11 2
Uren   3 0  6 1
Edwards   2 0 11 1
James   1 0 16 0


Roedd sgôr Pwllheli o 71 o rediadau yn un digon parchus yn adeg hynny, ond fe chwalwyd eu gobeithion gyda batiad Pike. Dyna’r ail waith iddo sgorio cant i’r clwb o fewn mis.

Cafwyd caniatâd i wneud defnydd o Pike eto yn 1905. Y tro yma nid oes son am dalu i Borthmadog ond fe leihawyd cyflog Pike o 4 ceiniog yr wythnos am y fraint. Byddai’r trefniant yn caniatáu iddo ddod i Bwllheli bob pnawn Iau drwy’r tymor oni bai fod Porthmadog wedi trefnu gêm ar yr un diwrnod.

Ni chafodd Pike lawer o lwc ar yr achlysur prin y’i gwelwyd yn troi allan i Bwllheli. Gêm yn erbyn Caernarfon ym Mis Gorffennaf 1905 a welir isod.


Caernarfon

Pwllheli
R S Standing   b J Smalley

2

J Smalley coes o flaen b Clarke

0

Clarke   b J E Davies

21

F Wheeler d Billing b Standing

3

H Billing d R W Roberts b R W Roberts

9

W Pike st Billing b Standing

4

J H Henwood   b J Smalley

0

W A Hughes rhedeg allan  

1

R H Caldwell   b W Pike

45

J H Thomas   b Clarke

0

R Ll Jones    b J Smalley

15

E H Beck   b Standing

2

E Baston    b J Smalley 

0

R H White   b Clarke

0

E W Jones   b R W Roberts

2

J E Davies d R Jones b Standing

5

D R Parry   b J Smalley

7

R W Roberts heb fod allan   

7

M Doolan   b J Smalley

5

T Lloyd   b Clarke

0

R A Williams heb fod allan  

1

A A Still d R Jones b Clarke

0

Ychwanegol

4

Ychwanegol

1

 

Cyfanswm

 

111

 

Cyfanswm

 

23


Cynlluniwyd gan: Keith Parry Hawlfraint 2006