Tymor digon siomedig gafwyd eleni, gyda’r tîm ar y cyfan yn chwarae safon eithaf gwael o griced. Daeth colli nifer o
chwaraewyr sefydledig dros y blynyddoedd diwethaf yn amlwg iawn mewn rhai gemau.
Chwaraeodd y tîm cyntaf 17 o gemau, ennill chwech o’r rhain a cholli unarddeg. Roedd record yr ail dîm yn waeth o lawer;
ennill dim ond un gêm allan o dair ar ddeg.
Er y siom mae yna obaith. Gwelwyd dau chwaraewr ifanc yn datblygu’n hynod o sydyn yn ystod y tymor. Sgoriodd Iolo
Williams ei hanner cant cyntaf i’r Clwb yn erbyn Rhewl wrth sgorio cyfanswm o 208 o rediadau yn ystod y tymor. Roedd
dawn Mark Wyn gyda’r bat hefyd yn amlwg wrth iddo yntau sgorio ei hanner cant cyntaf yn erbyn Bae Trearddur ym mis Awst.
Dyma’r unig waith i Bwllheli sgorio dros 200 mewn batiad. Toedd yna ddim trechu ar Ian, brawd Mark ychwaith wrth iddo
yntau ddangos ei fedrusrwydd gyda’r bat gyda sawl sgôr nodedig yng nghanol batiad Pwllheli.
Methodd y chwaraewyr mwyaf profiadol ddangos cysondeb yn eu chwarae ac er i amryw unigolyn gael ambell i gêm dda daeth
diffyg cryfder y tîm yn boenus o amlwg lawer yn rhy aml.
Roedd hi’n braf gweld Bob Bovill yn chwarae yng ngêm olaf y tymor. Tydio wedi colli dim o’i gyflymdra na’i gywirdeb a
byddai ei brofiad helaeth yn amhrisiadwy'r tymor nesaf.
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i wahodd chwaraewyr hen a newydd i ymarfer ar gyfer y tymor newydd. Mae’r cyfleusterau
arbennig sydd gennym ym Modegroes gyda’r gorau.
Adroddiad John Llewelyn Jones.
Cliciwch yma i weld
manylion gemau unigol 1981.
Cynlluniwyd gan: Keith Parry
Hawlfraint 2007