Mae'n ddiddorol gweld fod yna un a anwyd ym Mhwllheli wedi chwarae criced ar lefel rhyngwladol. Cafodd Howard Guerin
Le Peton ei eni yn y Dref ar 19eg o Ionawr 1895 gan fynd ymlaen i chwarae un waith i'r Iwerddon yn 1921.
Diolch i Dafydd Lloyd Hughes am gefndir y teulu.
Yn ystod yr 1890au, a datblygu Marian y De yn ei anterth roedd yna ryw fath o ymgyrch i hudo Saeson cefnog i ddod i aros
yno, ac mi lwyddwyd i raddau yn y dechrau. Aent i Bwllheli a llogi tai am fis a mwy ar y tro ac i'w cael i deimlo'n gartrefol
sefydlwyd ysgolion preifat yno. Addysg drwy gyfrwng y Saesneg. Un o'r athrawon oedd A E Le Peton - Ffrancwr a thad Howard.
Mae'n annhebyg fod Howard a'i deulu wedi aros yn y Dref am lawer iawn ac na chafodd criced yn y Dref unrhyw ddylanwad
arno ond mae'n werth nodi'r gêm o dan sylw cyn deneued yw'r cysylltiad.