Search billions of records on Ancestry.com
   
 
  Hafan
  Hafan
 
  Chwaraeon
  Criced
  Hoci
  Peldroed
  Rygbi
 
  Hanes
  Dechreuad
  Blynyddoedd Cynnar
  1900-1910
  1911-1920
  1921-1930
  1931-1940
  1941-1950
  1951-1960
  1961-1970
  1971-1980
  1981-1990
  1991-2000
  2001-ymlaen
 
  Gwybodaeth
  Cyswllt
  Gwybodaeth
 

      

     Llongyfarchiadau



Ben Jones

Ben Jones yn derbyn bat fel cydnabyddaieth iddo dorri record batio'r clwb yn ystod tymor 2005. Gwyn Jones cyn ddeilydd y record yn llongyfarch Ben gyda Neil Williams, capten y tim cyntaf.



Yn ogystal â bod yn dymor llwyddiannus i’r tîm roedd hefyd yn uchafbwynt i un batiwr ifanc.

Wrth sgorio cyfanswm o 716 rhediad mewn 16 o gemau llwyddodd Ben Jones i basio cyfanswm Gwyn Jones o 707, record oedd wedi sefyll ers tymor 1976. Bu’r record o dan fygythiad sawl gwaith ers y flwyddyn honno. Mae Neil Williams wedi sgorio mwy na chwe chant o rediadau ar bum achlysur gan sgorio 680 yn y flwyddyn 2004. Yr agosaf at dorri’r record hyd eleni oedd Howard Gill a sgoriodd fel mae’n digwydd union yr un nifer o rediadau a Gwyn, yn 1989.

Mae llwyddiant Ben yn gadarnhad o’i ddatblygiad fel batiwr ac mae ei gyfanswm yn 2005 yn uwch na’r pedwar tymor blaenorol i gyd gyda’i gilydd. Roedd y record yn edrych mewn perygl am ran fwyaf o’r tymor. Erbyn Gorffennaf 16eg roedd Ben wedi sgorio cant ddwywaith a thri hanner cant, ond ni ddaeth y record yn rhwydd erbyn y diwedd a gwelwyd tipyn o chwysu cyn cyflawni’r dasg.

Gyda chwe gem yn weddill roedd ei sgôr yn sefyll ar 607, union gant tu ôl i’r record, ond ar ôl dau sgôr o bedair a dwy gêm yn cael ei chanslo oherwydd glaw roedd popeth yn y fantol, yr oedd dal angen sgorio 30 rhediad yn y gêm derfynol gartref yn erbyn Hawarden Park ar y 10fed o Fedi. Yn haeddiannol llwyddodd Ben i ychwanegu 38 i’w gyfanswm a phasio’r targed o drwch blewyn.

Cynlluniwyd gan: Keith Parry Hawlfraint 2006