
Magwyd y bachgen ieuanc hawddgar ac addawol y mae ei ddarlun
uchod gan ei daid a'i nain, Mr. a Mrs. Thomas Jones, 9 Tai'r Mynydd, Bangor. Yr
oedd Mr. Thomas Jones yn dra adnabyddus yn y ddinas fel Ex-Sergeant Police. Bu
Willie am bedair blynedd yn ysgol Genedlaethol Bangor. Collodd yntau ei fywyd
trwy suddiad y Connemara, Tach. 3, 1916, pan yn 17 oed. Canodd lawer ar y
pennill:
"Er nad yw'm cnawd ond gwellt,
A'm hesgyrn ddim ond clai,
Mi ganaf yn y mellt
Maddeuodd Duw fy mai.
Mae Craig yr oesoedd dan fy nhraed,
A'r mellt yn diffodd yn y gwaed."