Search billions of records on Ancestry.com
   

PRIVATE WILLIAM HUGH JONES.

Dyma ddarlun o fab i Mrs. Elizabeth Jones, 49 Ambrose Street, Bangor. Cyn ymuno â'r fyddin yr oedd yng ngwasanaeth cwmni y London and North Western. Ond ar doriad allan y rhyfel clywodd swn y gaiw, ac ar unwaith, yn wirfoddol, ymunodd â'r 6th Royal Welsh Fusiiers, sef Hydref 23, 1914. Anfonwyd ef drosodd, a bu ym mrwydr y Dardanelles, bu hefyd yn yr Aifit, a gwlad Canaan. Ond gorfu iddo yntau roddi yr arfau i arall, a chladdwyd ef mewn mynwent filwrol yn agos i Beersheba, pan yn 34 mlwydd oed.