
Mae yr uchod yn ddarlun gwir ragorol o fab y diweddar Mr.William Bulkeley a Mrs.
Bulkeley, 35 Tai'r Mynydd, Bangor. Ymunodd ef ym mis Awst, 1914, o fythgofiadwy
fis, ac anfonwyd ef allan i Ffrainc cyn diwedd y flwyddyn. Cyn hir daeth yn ol
yn dioddef oddi wrth yr oerni a'r rhew. Aeth allan drachefn ddechreu y flwyddyn
1916. Mawrth 4, 1917, mewn brwydr ofnadwy, syrthiodd pan yn 28 mlwydd oed,
Na chais esmwythder yn y byd,
Rhaid dwyn o hyd ryw groesau,
Dioddef ddarfu'th dad a'th daid,
A dioddef raid i tithau.
Above is a fine picture of the son of the late Mr. William Bulkely and Mrs. Bulkely 35 Tai'r Mynydd, Bangor. He joined up in August 1914, oh unforgettable month , and was sent out to France before the year's end. Before long he was returned suffering from the cold and frost. He went out again at the beginning of 1916. On March 4th 1917, in a terrible battle, he fell aged 28.