Priod hawddgar Mrs. Elizabeth Jones, Oxford House, High Street, Bangor, ydoedd
yr uchod. Collodd ei fywyd yn suddiad yr agerlong Connemara, yr hon a suddwyd
gan y gelynion, y tu allan i Greenore, nos Wener, Tach. 3, 1916. Yn ffodus
cafwyd ei gorff, a dygwyd ef drosodd fore y dydd Iau canlynol i'w osod i orwedd
ym Mynwent Glanadda, Bangor, yr un diwrnod. Yr oedd yn 64 mlwydd oed.
Ust ! fy mhlentyn, taw, distawa,
Gwybydd di mai Fi sydd Dduw,
Ymdawela yn f'ewyllys,
Cred i'm gofal tra fo'ch byw.
Os rhaid ymladd a gelynion,
Fl, dy north fydd o dy blaid;
Er gwaned wyt, cci rym i sefyll
A Fi'n gymorth wrth bob rhaid."