Darlun yw hwn o ail fab Mr. a Mrs. John M. Jones, Gwynfor, Friars Road, Bangor.
Ymunodd y brawd hwn ar doriad y rhyfel allan gyda'r rhai cyntaf yn y ddinas â'r
Royal Garrison Artillery, Awst, 1914. Anfonwyd ef allan i Ffrainc Chwef., 1916,
yn nechreu Meh., 1917, daeth adref am ychydig orffwys, yna dychwelodd yn ol.
Cyrhaeddodd yno ar y 24 o'r mis, ac yn blygeiniol iawn bore 25 fe'i clwyfwyd mor
ddifrifol mewn brwydr yn agos i Lens, fel y bu farw y dydd canlynol, Meh. 26,
1917, a chladdwyd yr hyn oedd farwol ohono ym mynwent Choegues, yn Ffrainc, yn
28 mlwydd oed. Yr oedd yn fab ufudd, yn gyfaill cywir, ac yn gristion gloyw.