
Mab i'r diweddar Mr. a Mrs. John Eaton, 25, Hendrewen Road, Bangor, oedd y
Driver Eaton.
Dirgelwch Rhagluniaeth.
Mewn myfyrdod dwys un diwrnod
Uwch ben cyflwr du y byd.
Drwy y rhyfel a'i effeithiau
Ocheneidiau drwyddo'i gyd.
Yna saethodd i fy meddwl
Am lywodraeth fanwl Duw,
Ar gymylau a thywyllwch
Ar y meirw, ynghyd â'r byw.
Annirnadwy yw ei lwybrau
Nid adwaenir yn y môr,
Felly hefyd trwy'r rhyfeloedd
Anhawdd deall ffyrdd yr Ior.
Ac er treiddio yn dragwyddol
I ddirgelwch Ion a'i waith,
Syndod fyddant wedi'r cyfan
I dragwyddol oesau maith.
Afallon.
W. J. OWEN.
Driver Eaton was the son of the late Mr. & Mrs. John Eaton 25 Hendrewen Road, Bangor