
Dyma ddarlun o un o fechgyn hawddgaraf ein dinas, a mab i Mr. a Mrs. William Griffith, 303 High Street., Bangor. Ymunodd Hugh âr 14 Royal Welsh Regiment. Ym mhen amser anfonwyd ef allan i Ffrainc, ac mewn ymosodiad mawr a ffyrnig, Saboth, Meh. 4, 1916, clwyfwyd ef yn drwm, a bu farw mewn Ysbyty ym mhen y pythefnos, & chladdwyd yr hyn oedd farwol ohono ym mynwent St. Omer, pan yn 21 mlwydd oed. Bu fyw y fath fywyd fel y tystiai ei gyd-filwyr ei fod yn berarogl i'w Waredwr.
Yr adnod ddiweddaf a adroddodd yn y Seiat cyn myned i Ffrainc oedd, Na thralloder eich calon, yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finnau hefyd, ac yn rhyfedd iawn, yn ol adroddiad y Caplan iw rieni, dyna y geiriau a adroddodd ychydig cyn
marw.
This is a picture of the son of Mr. a Mrs. William Griffith, 303 High Street.,
Bangor. Hugh joined the 14 Royal Welsh Regimen. He was sent over to France and
in a fierce battle on Sunday June 4 1916 he was mortally wounded, and died
within a fortnight he was buried at St Omer aged 21 years