
SAPPER HUGH NORMAN JONES.
Ieuanc hardd ei foes a glān ei rodiad ydoedd y brawd hwn. Mab i Mr a Mrs. Hugh
Jones, Stanley House, Friars Road, Bangor. Derbyniodd ei addysg i ddechreu yn
ysgol enwog St. Paul's, Bangor, wedi hynny aeth yn gyfrifydd (Clerk) i Lythyrdy
y ddinas hon. Yn Ionawr 27, 1915 ymunodd ā'r Royal Engineers. Rhagfyr laf,
anfonwyd ef allan i Ffrainc i wasanaethu gyda'r Expeditionary Force. Ond
Tachwedd 29, 1917 tynnodd yntau ei gwys i ben, a chladdwyd ef yn Nghladdfa
Filwrol, Merville pan yn 23 mlwydd oed. Yr oedd y brawd annwyl hwn yn cael ei
ystyried yn un o'r dynion mwyaf siriol a phrydferth ei ymarweddiad yn ein dinas.