
Mab i Mrs. Evans, Bodawen, Glanadda, oedd y cyfaill ieuanc hwn. Gwrandawodd ar wahoddiad y Brenin, & cherddodd yn wrol, o'i wirfodd, i warchffosydd y gyflafan fawr. Gyda'r Royal Garrison Artillery y gwasanaethai ef o Chwef., 1915 hyd Gorff., 1917, pan y collodd ei fywyd mewn ymosodiad ofnadwy yn agos i Ypres, pan yn 22 mlwydd oed. Ystyrid ef gan y swyddogion yn filwr dewr, yn ffafryn y gatrawd, yn gyfaill siriol a charedig i bawb.
|
Byd y galar ydyw'r ddaear, Angau'n clwyfo, dyna'r gwir, Cymer rai yn ieuanc ddigon Cofir hyn gan lu yn hir. O mor hyfryd ydyw meddwl Wrth gefnu â'r daearol dÿ, Mae rhyw symud mae'r preswylydd I dÿ, gwell y nefoedd fry. |
Afallon W. J. OWEN.
This young fellow was the son of Mrs. Evans, Bodawen, Glanadda. He heeded his king's call and walked manfully and voluntarily to the trenches of the great war. He served with the Royal Garrison Artillery from Feb. 1915 to July 1917, when he lost his life in an attack near Ypres, aged 22 years. He was regarded by his officers as a brave soldier, he was a favourite in his regiment, and a kind and cheerful friend to all