Search billions of records on Ancestry.com
   

LANCE CORPORAL DAVID LLEWELYN JENKINS.

Dyma ddarlun o ddyn ieuanc fagwyd yn dyner a gofalus gan ei daid a'i nain, y diweddar Mr. a Mrs. Llewelyn Williams, 7 Tabernacl Street, Bangor. Ymunodd David ar doriad allan y rhyfel Awst, 1914, ā'r Cheshire Regiment, a syrthiodd yn aberth dros ei wlad Tachwedd 15, 1915, pan yn 30 mlwydd oed.

Yn nhrymder nos erchrydus
Ar faes y rhyfel gad,
Y gwelwyd llanc o Gymro
Yn ymladd dros ei wlad.
Y frwydr fawr ymladdwyd,
A buddugoiiaeth gaed,
A'r bachgen dewr a gafwyd
Yn gorwedd yn ei waed.
Yn swn y mawrion ynnau,
A'r gwynt chwibanai'n drist,
Y milwr dewr a ganai
Am gariad Iesu Grist;
Yn llesg, a gwan, fe wenodd
Wrth farw yn y lle,
A'i gān am gariad Iesu
Orffennodd yn y Ne'.

                                                                                    W. J. OWEN.

Afallon

<<Diwethaf

<<Back

Mynegai

Index

Nesaf>>

Next>>